Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Metro Gogledd Cymru’n “boncyrs”, yn ôl Mabon ap Gwynfor.

Daeth sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd yn ystod sgwrs banel golwg360 yng Ngŵyl Nabod Cymru ym Mlaenau Ffestiniog.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Metro Gogledd Cymru’n rhan o’u cynlluniau i “wella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru gyfan”.

Ar y panel yn trafod y cynllun, ynghyd â chyfres o bynciau llosg gwleidyddol eraill, gyda Mabon ap Gwynfor roedd Elfed Wyn ab Elwyn, Gaynor Jones o YesCymru, a Colin Nosworthy o Melin Drafod, dan arweiniad Cadi Dafydd, dirprwy olygydd golwg360.

“Mae hyn yn cynnwys gwella cysylltedd yn rhanbarth Mersi a’r Ddyfrdwy fel rhan o Fetro Gogledd Cymru, megis datblygu cynlluniau i drawsnewid rheilffordd y gororau rhwng Wrecsam a Bidston [yng Nglannau Mersi],” meddai llefarydd.

Dywed y Llywodraeth fod “teithwyr rheilffordd ar draws y rhanbarth eisoes yn elwa o’r buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sy’n arwain at wasanaeth mwy dibynadwy”.

“Ac yn ddiweddar, cafodd cynlluniau eu cyhoeddi i gynyddu gwasanaethau ar draws prif reilffordd Gogledd Cymru o Gaergybi i Gaer 50% erbyn 2026,” meddai’r llefarydd.

“Bydd ein cynlluniau ar gyfer masnachfreinio bysiau yn diwygio’r ffordd y mae bysiau’n gweithredu yng ngogledd Cymru ac yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ddatblygu rhwydwaith bysiau newydd ar gyfer y rhanbarth.

“Cyn hyn, rydym eisoes wedi gweld gwelliannau mewn gwasanaethau bysiau.

“Er enghraifft, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i wella rhwydwaith bysiau Sherpa’r Wyddfa yn fawr i drigolion lleol ac ymwelwyr, gyda llwybrau newydd, gwasanaethau amlach, prisiau rhatach a marchnata a chyhoeddusrwydd gwell.

“Rydym wedi dyfarnu £20m i awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru eleni i fynd i’r afael â blaenoriaethau trafnidiaeth, sy’n cynnwys datblygu opsiynau i fynd i’r afael â thraffig yn Llanbedr.”

‘Lle mae gogledd Cymru’n dechrau ac yn gorffen?’

Ond wrth drafod Metro Gogledd Cymru yn ystod y sesiwn banel, dywedodd Mabon ap Gwynfor fod “Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy o bres ym Metro Gogledd Cymru yn Lerpwl a Chaer a Crewe nag yng ngogledd Cymru”.

“Mae’n amlwg i ba blaid dw i’n perthyn,” meddai.

“Mae’n amlwg fy mod i’n gwerthwynebu’r pleidiau eraill.

“Ond dan y drefn bresennol, ydych chi’n ymwybodol bod Metro Gogledd Cymru’n cael ei greu dan ein Llywodraeth bresennol ni?

“Mae yna Fetro De Cymru, sef buddsoddiad anferthol, wedi bod yn y trenau yn y de.

“Lle mae gogledd Cymru’n dechrau ac yn gorffen?

“Yn fy meddwl i, gogledd Cymru ydy fan yma ym Mlaenau Ffestiniog, Sir Fôn, Llŷn, ar hyd arfordir y gogledd, Wrecsam, y Waun ac ar draws i Fachynlleth wedyn.

“Mae’n gwneud synnwyr i fi; dyna ydy’r gogledd.

“Ond mae Metro Gogledd Cymru yn dechrau ym Mhrestatyn ac yn mynd tuag at Fanceinion.”

Buddsoddi mwy yn nhrefi a dinasoedd Lloegr na Chymru

“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy o bres ym Metro Gogledd Cymru yn Lerpwl a Chaer a Crewe nag yng ngogledd Cymru,” meddai Mabon ap Gwynfor wedyn.

“Mae ein Llywodraeth ni’n credu mai’r ffordd i dyfu’r economi ydy ein cysylltu ni efo Manceinion a gogledd-orllewin Lloegr.

“Mae hwnna’n boncyrs, os ydych chi’n gofyn i fi, achos mae hynny’n golygu ein bod ni’n sicr yn y gogledd-orllewin ar ein colled yn llwyr.

“Does yna ddim buddsoddiad i sicrhau bod cymunedau y gogledd-orllewin yn cysylltu efo’i gilydd.

“Rydyn ni wedi gweld, yn ardal Llanbedr, y Llywodraeth yn tynnu pres o fuddsoddiad mewn ffyrdd lleol ym Meirionnydd achos bo nhw ddim yn credu bod eisiau fo, bod o ‘ddim yn llesol i’r amgylchedd, wir’.

“Rydyn ni’n mynd i stopio adeiladu ffyrdd yn ardaloedd gwledig Meirionnydd, ond rydyn ni yn mynd i fuddsoddi pres Cymru mewn cysylltu gogledd-ddwyrain Cymru efo gogledd-orllewin Lloegr.

“Mae hynna’n insane, a dyna fethiant y drefn ddatganoledig bresennol.”

Annibyniaeth

Gyda’r digwyddiad yn un fu’n canolbwyntio ar annibyniaeth a datganoli, dywedodd Mabon ap Gwynfor na fyddai’r drefn bresennol yn digwydd pe bai Cymru’n annibynnol.

“Dw i’n gwbl argyhoeddedig na fysa hynna’n digwydd dan Gymru annibynnol, achos byddai ffocws Cymru annibynnol yn edrych ar Gymru yn hytrach nag yn edrych fel Cymru fel adjunct i rywle arall,” meddai.