Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penodi Jonathan Cawley yn Brif Weithredwr.
Ymunodd e â’r Awdurdod yn 2013, a bu’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir ers hynny.
Dywed fod y swydd yn “gyfle ac yn sialens”, a’i fod yn “edrych ymlaen yn fawr i’w hwynebu”.
Bydd disgwyl iddo arwain ymdrechion yr Awdurdod i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.
Yn ogystal, bydd gofyn iddo gryfhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid, gweithredu cynlluniau rheoli’r parc, gwrando ar gymunedau lleol, gwella profiadau ymwelwyr, a gwella a gwarchod tirweddau a bioamrywiaeth Eryri.
Bydd hyn i gyd yn wyneb heriau cynaliadwyedd a gwytnwch amgylcheddol i’r parc hefyd.
‘Arweinyddiaeth a meddwl arloesol’
“Rydym yn hynod falch o groesawu Jonathan Cawley i’r swydd Prif Weithredwr,” meddai’r Cynghorydd Edgar Wyn Owen, cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
“Rydym yn hyderus y bydd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r meddwl arloesol sy’n angenrheidiol i lywio’r Awdurdod drwy’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau.”
Bydd disgwyl i Jonathan Cawley gymryd yr awenau gan Iwan Jones, y Prif Weithredwr dros dro presennol, sydd wedi arwain yr Awdurdod dros y cyfnod pontio blaenorol.