Mae cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi ymateb ar ôl i newyddiadurwraig y BBC gyhoeddi ei bod hi wedi gorfod canslo cyfweliad â Boris Johnson.
Roedd Bethan Sayed, fu’n cynrychioli rhanbarth Gorllewin De Cymru rhwng 2007 a 2021, yn credu mai “spoof” oedd neges Laura Kuenssberg ar X (Twitter gynt).
Yn ei neges, fe wnaeth Kuenssberg, sy’n cyflwyno rhaglen wleidyddol bob dydd Sul, egluro’r camgymeriad arweiniodd at orfod canslo’r cyfweliad gyda chyn-Brif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig.
Pwrpas y cyfweliad oedd ei holi am ei gyfrol hunangofiannol newydd, ac mae disgwyl y byddai wedi ei holi am ei gyfnod wrth y llyw yn Downing Street a’i ymadawiad yn dilyn sawl sgandal.
“Wrth baratoi i gyfweld â Boris Johnson fory, ar gam fe wnes i anfon ein nodiadau briffio ato fe mewn neges oedd i fod ar gyfer fy nhîm,” meddai.
“Mae hynny’n amlwg yn golygu nad yw’n briodol i’r cyfweliad fynd yn ei flaen.
“Mae’n rhwystredig iawn, a does dim diben esgus ei fod yn unrhyw beth ond yn destun embaras a siom, gan fod digon o gwestiynau pwysig i’w gofyn.
“Tu hwnt i’r wynebau cochion, gonestrwydd yw’r polisi gorau.
“Wela i chi ddydd Sul.”
Ymateb y BBC
Yn dilyn cyfaddefiad Laura Kuenssberg, mae’r BBC bellach wedi egluro’r sefyllfa hefyd.
“Fel mae Laura wedi egluro, cafodd nodiadau briffio oedd i fod ar gyfer cydweithwyr eu rhannu ar gam gyda [Boris Johnson],” meddai llefarydd.
“Mae hyn yn gwneud y cyfweliad fory’n anghynaliadwy.
“O dan yr amgylchiadau, mae’r BBC a thîm Mr Johnson wedi cytuno mai dyma’r ffordd orau ymlaen.”