Bydd yn rhaid i’r Ceidwadwyr Cymreig allu “cyferbynnu” Reform UK yn etholiadau’r Senedd os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus, yn ôl yr Athro Sam Blaxland.

Fel arall, mae “posibilrwydd gwirioneddol” y gallai Reform ennill mwy o seddi na’r Ceidwadwyr yn 2026, meddai’r sylwebydd gwleidyddol ac academydd o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) sydd wedi addysgu ac ysgrifennu am hanes y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Mae’n gweld gobaith i Reform y bydd modd iddyn nhw fanteisio ar Blaid Lafur sydd “wedi blino”, meddai, gan ychwanegu bod y gobaith hwnnw’n dibynnu ar allu Reform a’u harweinydd Nigel Farage i gyfathrebu’n effeithiol â’r cyhoedd.

“Dim ond un ym mhob pump o oedolion bleidleisiodd dros [Syr Keir] Starmer a’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol,” meddai wrth golwg360.

“Ac yng nghyd-destun Cymru, mae gennym ni Blaid Lafur sydd yn edrych fel pe bai hi wedi blino, ac sydd yn weddol hunanfodlon o ganlyniad i’r ffaith eu bod nhw wedi bod mewn grym ers cymaint o amser.

“Felly, o safbwynt hynny, mae’r Ceidwadwyr yn lwcus bod yna gyfle yng Nghymru.

“Ond y broblem fwyaf yw fod y Ceidwadwyr nawr yn cael eu cymryd drosodd ar yr asgell dde gan Reform.

“Mae gan Farage y gallu i gyfathrebu mewn ffordd syml ac sydd yn glanio gyda’r cyhoedd, ac mae llawer o’r hyn mae e’n ei ddweud yn apelio at bleidleiswyr sydd yn draddodiadol wedi pleidleisio’n las.”

Dau opsiwn i’r Ceidwadwyr yng Nghymru

Fe fu galwadau o fewn y Ceidwadwyr Cymreig, gan gynnwys gan gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb, am “wyneb a llais newydd” fel arweinydd i’w gynnig i etholwyr yn 2026.

Dywed Sam Blaxland fod yn rhaid i’r blaid fod yn ofalus cyn newid arweinydd, a hynny oherwydd bod Andrew RT Davies yn “adnabyddus” ymysg etholwyr.

“Mae’r ffaith ei fod e’n wahanol yn golygu bod pobol yn tueddu i’w adnabod e, ac o fewn gwleidyddiaeth Cymru, all hynny ddim ond bod yn beth da.”

Yn ôl Sam Blaxland, mae gan Andrew RT Davies a’r Ceidwadwyr Cymreig ddau opsiwn – un ai mabwysiadu hunaniaeth sydd yn “fwy gwladgarol”, neu wneud yr hyn sy’n debycach i’r hyn sy’n digwydd nawr, sef bod yn fwy beirniadol o ddatganoli.

“Mae’r arweinyddiaeth presennol yn amlwg yn ceisio creu plaid sy’n fwy unigryw, drwy ddweud y pethau sydd efallai yn fwy gwrth-ddatganoli ei natur,” meddai.

“Dw i’n credu bod hyn, efallai, yn dacteg dda oherwydd ei bod yn denu sylw.”

Ond ychwanega fod hyn yn risg strategol, gan fod “nifer o’r bobol sydd yn wrth-ddatganoli yn dueddol o beidio pleidleisio beth bynnag”.

“Anodd diffinio” Ceidwadaeth

Yn ôl Sam Blaxland, mae problemau’r Ceidwadwyr yn llawer mwy na’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru.

Dywed mai’r broblem fwyaf i’r Blaid Geidwadol ar hyn o bryd yw “diffinio Ceidwadaeth”.

“Yn hanesyddol, mae’r blaid wedi bod yn ymwybodol o’r hyn yw ei phwrpas, a phwy mae hi’n eu cynrychioli,” meddai.

“Ond y broblem fwyaf, yn enwedig ers [ymddiswyddiad] David Cameron [yn 2016], yw diffinio beth mae Ceidwadaeth yn ei olygu i bobol.

“Mae’n anodd iawn gweld beth mae’r Ceidwadwyr yn ei gynrychioli, heblaw eisiau bod mewn llywodraeth a bod yn llai niweidiol na’r Blaid Lafur.”