Mae’r Senedd wedi clywed fod bron i 250,000 o gartrefi yng Nghymru’n wynebu’r perygl o lifogydd, gyda nifer y rhybuddion gafodd eu cyhoeddi am lifogydd wedi cynyddu 16% y llynedd.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, wrth y Senedd fod gwarchod pobol rhag effaith gatastroffig llifogydd o’r pwys mwyaf.

Mewn datganiad ddoe (dydd Mawrth, Hydref 1), amlinellodd y dirprwy Brif Weinidog gynlluniau Llywodraeth Cymru i warchod pobol rhag peryglon newid hinsawdd.

Dywedodd wrth y Senedd fod £75m o raglenni llifogydd, sy’n record, wedi cael eu cadw eleni, er gwaetha’r pwysau ar y pwrs cyhoeddus.

Dywedodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru’n adeiladu un o’u cynlluniau mwyaf erioed yng Nghasnewydd, ac mae disgwyl y bydd y buddsoddiad o £21m yn gwarchod mwy na 2,000 o gartrefi.

‘Trychineb Beiblaidd’

Roedd Huw Irranca Davies, cyn-Aelod Seneddol fu’n Weinidog yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan arweinyddiaeth Gordon Brown, hefyd wedi cyfeirio at gynllun gwerth £6m yn Rhydaman a £6m pellach yn ardal Hirael ym Mangor.

Fe wnaeth e annog y cyhoedd i gofrestru i dderbyn rhybuddion drwy system rhybuddion llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i ystyried yswiriant sy’n fwy fforddiadwy ac sydd ar gael drwy Flood Re.

Rhybuddiodd Janet Finch-Saunders, llefarydd newid hinsawdd y Ceidwadwyr Cymreig, fod llifogydd yn parhau i beri peryglon sylweddol er gwaetha’r buddsoddiadau parhaus.

Dywedodd fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 483 o rybuddion am lifogydd rhwng Ionawr ac Ebrill, sy’n gynnydd blynyddol o 16%.

“Mae dros 245,000 o eiddo yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu’r perygl o lifogydd o’n hafonydd, ein moroedd a dŵr arwyneb,” meddai.

“Mae hyn yn golygu bod oddeutu un ym mhob wyth eiddo yng Nghymru’n wynebu’r perygl o drychineb Beiblaidd.”

‘Perygl enfawr’

Cododd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy bryderon ynghylch dibynnu ar gynghorau i ddosbarthu arian, yn hytrach na chynnig grantiau i aelwydydd er mwyn cyd-fynd â mesurau gwytnwch llifogydd.

Dywedodd Janet Finch-Saunders fod hyn yn golygu bod mynediad yn gyfyng ac yn dameidiog, gyda dim ond 594 o gartrefi wedi’u gwarchod drwy un cynllun o’r fath yn 2021.

Rhybuddiodd hi hefyd am “berygl enfawr llifogydd posib” o argaeau dan berchnogaeth breifat, gydag ugain wedi’u dynodi’n berygl uchel gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Dw i wedi cael sioc o weld fod gan dîm rheoleiddio Cyfoeth Naturiol gyllideb flynyddol o ddim ond £20,000,” meddai.

“I fi, dydy hynny jyst ddim yn swnio’n ddigon o bell ffordd.”

‘Trawma’

Dywedodd Delyth Jewell fod hyd yn oed y rhagolygon mwyaf optimistaidd yn disgwyl i law’r gaeaf gynyddu 6% erbyn 2050 a 13% erbyn 2080, gan ddod â “pheryglon dinistriol i fywydau, cartrefi a bywoliaethau”.

Fe wnaeth llefarydd newid hinsawdd Plaid Cymru ganolbwyntio ar effaith anghymesur llifogydd ar y bobol fwyaf bregus yn y gymdeithas.

“Mae aelwydydd tlotach yn enwedig yn wynebu realiti sy’n llawer llymach pan ddaw i baratoi ar gyfer llifogydd ac adfer ohonyn nhw.”

Pwysleisiodd Delyth Jewell, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, fod llifogydd yn dod â thrawma seicolegol yn ogystal â niwed corfforol.

“Dw i’n cofio, yn 2020 fe wnes i siarad â thrigolion yn Ystrad Mynach,” meddai.

“Roedden nhw wedi cael llifogydd.

“Roedd eu plant yn llawn ofn bob tro fyddai’n bwrw glaw yn drwm, ac roedden nhw wedi’u hargyhoeddi y byddai’n rhaid iddyn nhw ffoi yn y nos.

“Roedden nhw’n poeni am ddiogelwch eu hanifeiliaid anwes oedd yn cysgu lawr llawr, a doedden nhw ddim yn gallu cysgu rhag ofn bod y dŵr yn dychwelyd ac yn lladd eu hanifeiliaid anwes.”

‘Llusgo traed’

Tynnodd Darren Millar sylw at y ffaith y bydd hi’n 35 mlynedd fis Chwefror nesaf ers llifogydd Towyn.

Fe wnaeth y Ceidwadwr, sy’n cynrychioli Gorllewin Clwyd, groesawu gwaith gwerth £13m ar amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mae Cinmel, ond rhybuddiodd am ba mor fregus yw glannau ochr chwith afon Clwyd.

Fe wnaeth ei gydweithiwr Laura Anne Jones feirniadu’r “llusgo traed” ar amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Ynysgynwraidd, Sir Fynwy, oedd wedi dod i ben oherwydd diffyg arian.

Yn y cyfamser, dywedodd Mick Antoniw o’r Blaid Lafur fod llifogydd difrifol yn ei etholaeth ym Mhontypridd yn 2020 wedi dangos graddau newid hinsawdd a’r effaith y gall ei chael.

Tynnodd Heledd Fychan o Blaid Cymru sylw at y ffaith fod yr arian ar gyfer yr elusen Fforwm Llifogydd Cenedlaethol wedi dod i ben yr wythnos hon, ac nad oedd modd i Huw Irranca-Davies ymrwymo i barhau â’r arian.