Mae disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bennu lefel y premiwm treth gyngor ac eiddo gwag hirdymor ar gyfer 2025-26 dros yr wythnosau nesaf.
Fe geisiodd y Cyngor farn y cyhoedd mewn ymgynghoriad rhwng Gorffennaf 8 ac Awst 18 eleni, a daeth 691 o ymatebion i law.
Mae cynghorwyr hefyd wedi bod yn ystyried goblygiadau a chanlyniadau’r lefelau amrywiol o bremiwm wrth wneud penderfyniad.
Mae’r premiwm yn arf er mwyn i awdurdodau lleol annog perchnogion tai i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, cefnogi’r cynnydd yn nifer yr eiddo fforddiadwy sydd ar gael i’w prynu neu eu rhentu, ac i geisio gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Bydd gofyn i gynghorwyr gymeradwyo neu wrthod argymhellion Gweithgor Tai Fforddiadwy (Premiwm y Dreth Gyngor) Conwy, oedd wedi cyfarfod fis diwethaf.
Yr argymhellion yw:
- codi premiwm o 150% ar gyfer ail gartrefi o Ebrill 1, 2025
- codi premiwm o 200% ar gyfer eiddo gwag hirdymor fu’n wag am hyd at bum mlynedd neu lai, o Ebrill 1, 2025
- codi premiwm o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor fu’n wag ers pum mlynedd neu fwy, o Ebrill 1, 2025
- Premiwm lefel arddangosiadol o 200% ar y ddau gategori o Ebrill 1, 2026, gyda phremiwm uwch o 300% ar gyfer eiddo gwag hirdymor fu’n wag ers pedair blynedd neu fwy, yn unol ag adolygiad yn ystod 2025-26.
Pwysigrwydd y premiwm
“Mae’r premiymau hyn yn ymwneud yn bennaf â cheisio cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn y sir, ar adeg pan fo mwy a mwy o bobol yn canfod nad ydyn nhw’n medru dod o hyd i dai addas,” meddai’r Cynghorydd Charlie McCoubrey, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
“Mae’n bwysig cofio bod y refeniw sy’n cael ei godi yn mynd tuag at gefnogi’r pwysau ar gyllideb dai’r Cyngor ar adeg pan fo rhagolygon ariannol pob awdurdod lleol yn dal i fod yn heriol.”
Bydd yr adroddiad ar bremiymau’n cael ei drafod gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Gyllid ac Anodau’r Cyngor ar Hydref 7, ac fe fydd yn mynd gerbron y Cabinet ar Hydref 8, cyn bod penderfyniad terfynol gan y Cyngor ar Hydref 17.