Mae gweithwyr yn ffatri Oscar Mayer ar ystâd ddiwydiannol yn Wrecsam yn parhau i streicio yn sgil cytundebau newydd sydd wedi cael eu “gorfodi” arnyn nhw.

Yn ôl Uno’r Undeb, mae’r cwmni sy’n darparu prydau parod i amryw o archfarchnadoedd gwledydd Prydain ac Ewrop, wedi bod yn defnyddio tacteg o “ddiswyddo ac ailgyflogi” er mwyn rhoi pwysau ar weithwyr i dderbyn yr amodau newydd.

Dywed yr undeb fod mwy na 500 o weithwyr wedi bod yn streicio tu allan i’r ffatri, archfarchnadoedd fel y Co-op yn Wrecsam, a’r pencadlys ym Manceinion.

Beth yw’r amodau “annheg” yn y cytundebau?

O dan amodau gwreiddiol cytundebau’r gweithwyr, roedd gan bob gweithiwr yr hawl i dair egwyl 30 munud ar shifftiau deuddeg awr, ac fe fyddan nhw’n derbyn yr arian yma’n llawn o dan yr amodau newydd hefyd.

Ond mae’r cwmni wedi ceisio “gorfodi” gweithwyr i lofnodi cytundebau newydd fel mai dwy egwyl o 26 munud yr un fyddan nhw’n eu cael, ond dim ond am chwe munud yr un fyddan nhw’n cael eu talu.

Gallai gweithwyr llawn amser golli hyd at £3,000 y flwyddyn o ganlyniad i’r newidiadau.

Ond yn ôl Leigh Williams, un o drefnwyr y streiciau ar ran yr undeb, dydy pryderon y gweithwyr “ddim i gyd i wneud efo’r arian chwaith”.

“Mae’r gweithwyr dal eisiau’r tair egwyl yn ystod y shifft,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd mae gweithio mewn amodau ofnadwy am ddeuddeg awr yn cael effaith fawr arnyn nhw.”

Gall gweithwyr fod yn gweithio mewn amodau ofnadwy o boeth wrth baratoi bwyd parod, neu mewn amodau oer iawn os ydyn nhw’n gweithio ar becynnu’r bwyd.

“Felly, mae o’n bwysig bod y gweithwyr yma yn cael y tair egwyl er mwyn cael seibiant o’r amodau sydd ar y llinell gynhyrchu,” meddai Leigh Williams wedyn.

Llawer o’r gweithwyr “ddim yn rhugl” yn Saesneg

Dywed Leigh Williams fod nifer o’r gweithwyr yn dod o wledydd fel Gwlad Pwyl, Bwlgaria a Rwmania’n wreiddiol.

“Beth rydym yn ei weld yw fod lot o deuluoedd yn gweithio i Oscar Mayer,” meddai.

“Ac yn yr ystyr yna, rydym yn gwybod eu bod nhw am golli allan ar fwy o arian, felly mae’n glir i weld pa mor annheg yw’r cynlluniau.”

Dydy llawer o’r gweithwyr “ddim yn rhugl” yn Saesneg, meddai, ac mae hyn wedi achosi dryswch iddyn nhw gan fod y cwmni ond yn cyfathrebu â nhw yn Saesneg.

“Mi oedden nhw yn rhoi llenyddiaeth allan yn Saesneg,” meddai.

“Felly, doedd nifer o’r gweithwyr ddim yn deall beth oedd y newidiadau, a sut roedd hyn yn debygol o effeithio ar eu hawliau nhw yn y gweithle.

“Yn syml, mae Oscar Mayer wedi trio gorfodi hyn ar ein gweithwyr, a dyna pam fod rhaid i ni sefyll i fyny drwy streicio.”

Dywed fod hyn, ynghyd â’r ffaith fod y cwmni’n defnyddio’r dacteg o “ddiswyddo ac ailgyflogi”, wedi achosi straen i’r gweithwyr.

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chadarnhau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn gwneud yr arfer yn anghyfreithlon, ond gan fod Oscar Mayer wedi cychwyn y broses o ddiswyddo cyn yr etholiad cyffredinol, dydyn nhw ddim wedi torri’r gyfraith.

Ymgyrch “wych”, ond dim un cyfarfod

Er bod Leigh Williams yn disgrifio’r ymgyrch gan yr undeb a’r gweithwyr fel rhywbeth “gwych”, dywed nad yw’r cwmni wedi gwneud unrhyw ymdrech i eistedd o amgylch y bwrdd efo nhw i drafod yr amodau.

“Mae’n ymddangos eu bod nhw’n benderfynol o gael y cytundebau newydd yma drwodd,” meddai.

Ychwanega ei fod yn “siomedig” fod y cwmni’n ymddangos fel pe baen nhw’n benderfynol o gael y cytundebau drwodd, a hynny yn wyneb y ffaith fod siopwyr wedi sylweddoli bod y silffoedd prydau parod yn wag.

“Fel arfer, byddai’r rhan fwyaf o gwmnïau wedi cyfarfod efo ni unwaith o leiaf, ond dydy Oscar Mayer ddim hyd yn oed wedi gwneud hynny.

“Mae’r bwrdd rheoli wedi colli cytundeb efo Aldi, ac maen nhw’n trio gwneud i fyny am hyn drwy ymosod ar y gweithwyr.”

Dywed Leigh Williams y bydd yr undeb yn parhau i streicio tan bod penderfyniad addawol i weithwyr ar y cytundebau.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan gwmni Oscar Mayer.