Mae’r dulliau o atal colli bioamrywiaeth yng Nghymru wedi bod yn “gyffredinol aneffeithiol” hyd yn hyn, yn ôl academydd o Brifysgol Caerdydd.

Aeth yr Athro Steve Ormerod o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd gerbron Pwyllgor Bioamrywiaeth y Senedd yr wythnos ddiwethaf, gan sôn am fethiannau Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r argyfwng byd natur.

Wrth siarad â golwg360, dywed fod “cyfoeth y byd naturiol yn prysur lithro o’n gafael”, a bod angen newid agweddau’n fuan os oes newid am ddod.

‘Cwestiynau sylweddol’

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r ymgyrch ryngwladol i ddynodi 30% o diriogaeth Cymru’n ardal gadwraeth erbyn 2030.

Nod yr ymgyrch ydy lleddfu effaith newid hinsawdd a cholli cynefinoedd gwyllt ar fioamrywiaeth byd-eang.

Yn 2022, cyhoeddodd y Llywodraeth yr adroddiad Plymio dwfn bioamrywiaeth, dan arweiniad yr Athro Steve Ormerod, er mwyn amlinellu’r camau fyddai angen eu cymryd er mwyn cyflawni’r amcan.

Ond yr wythnos ddiwethaf, mynegodd yr academydd gryn bryder am allu’r polisïau presennol i wyrdroi tynged bywyd gwyllt Cymru.

Mewn datganiad cyn y sesiwn honno, dywedodd fod Cymru’n dilyn trywydd tebyg iawn i weddill y Deyrnas Unedig a’r byd ehangach.

“Mae’n byd ni wedi’i nodweddu gan ecsbloitio adnoddau sy’n parhau i gyflymu ar gyfradd uwch na chadwraeth adnoddau,” meddai.

“Mae Cymru’n cyfrannu at golledion bioamrywiaeth yn yr un modd.”

Fodd bynnag, nid diffyg ymdrech sy’n gyfrifol am y broblem hon, meddai, ond yn hytrach ddiffyg blaenoriaethu.

“Yn gyffredinol, mae’r weledigaeth, y cysyniadau, a’r cyfleoedd gennym ni i gyflawni’n hymrwymiadau…” meddai.

“Ond mae cyllid, cymelliannau a blaenoriaethu’n broblemau o hyd.

“Er bod sawl cam wedi’u cymryd neu wedi’u hannog wrth geisio cyflawni’r argymhellion, mae maint a chyfradd y newid wedi bod yn fach ac yn araf; mae’r cymellianau ar sail buddsoddiad deddfwriaethol neu gan y Llywodraeth wedi’u cyfyngu gan argaeledd adnoddau; ac mae datblygiad ymdrechion cyllid preifat yn cynnwys risgiau sydd heb eu lleddfu eto.”

Cyfeiriodd at sawl man gwan lle gallai Llywodraeth Cymru wella.

Yn bennaf oll, awgrymodd fod angen i’r Llywodraeth ailstrwythuro’r ffordd mae gwybodaeth am fioamrywiaeth yn cael ei chasglu a’i darparu.

“Mae cwestiynau sylweddol yn bodoli o hyd am sut fydd Cymru’n medru gwneud cynnydd mewn da bryd erbyn 2030 – sydd 64 mis yn unig i ffwrdd,” meddai.

Colledion Cymru

Mae’r Athro Steve Ormerod hefyd yn tynnu sylw at y niwed sydd wedi’i wneud i fioamrywiaeth Cymru, gan gynnwys:

  • bod 18% o’r 4,000 o rywogaethau yng Nghymru gafodd eu hasesu dan fygythiad difodiant;
  • bod meintiau poblogaeth mewn rhywogaethau arbenigol, megis yr eog a’r wyfyn, wedi gostwng dros 33% ers y 1990au;
  • mai dim ond cyfran isel iawn o’r 24,000km o afonydd a nentydd yng Nghymru sydd wedi’u dynodi gan fesurau cadwraeth, a bod nifer o’r afonydd pwysicaf – megis afonydd Wysg, Cleddau, Tywi a Dyfrdwy – dan bwysau llygredd ofnadwy.

Yn ogystal â newid hinsawdd a gor-ecsbloetio adnoddau, mae bioamrywiaeth yng Nghymru’n dirywio dan fygythiad newidiadau i gynefinoedd, cystadleuaeth gan rywogaethau ymwthiol nad ydyn nhw’n frodorol, a llygredd a gwastraff.

Er bod rhai gwelliannau ar sail prosiectau blaenorol yn profi bod gweithredu’n bosib, dywed fod “y duedd yn gyffredinol yn adlewyrchu colledion parhaol, ac yn mynnu newid strategol sylweddol”.

Newid agweddau

Pam, felly, nad yw’r newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwireddu eisoes?

Awgryma’r Athro Steve Ormerod wrth golwg360 fod yr effaith ar fioamrywiaeth yn aml yn “anweledig” i lawer o bobol.

Mae’r gostyngiadau bychain mewn bioamrywiaeth yn digwydd yn raddol ac heb i lawer o bobol sylwi arnyn nhw, meddai, ac felly dydy’r brwdfrydedd sydd ei angen i leihau ein holion traed amgylcheddol ddim gennym ni’n aml.

Mae’n cydnabod y bydd y newidiadau sydd eu hangen yn “heriol”, ond ei bod hi’n “hanfodol” i ni ymgymryd ag ymgyrch ddeuol – lleihau’r pwysau rydyn ni’n ei roi ar yr amgylchedd, ar yr un pryd ag adfer y cynefinoedd a’r ecosystemau hynny sydd wedi’u difrodi eisoes.

“Dyna’r drasiedi. Mae cyfoeth y byd naturiol yn llithro o’n gafael mewn ffordd nad yw’r rhan fwyaf ohonon ni’n medru sylw arni.

“Ond yn sgil yr anwybodaeth hynny, mae’n cynhaliaeth ni fel rhywogaeth [yn ein ecosystem] yn ymddatod.”