Yr wythnos nesaf fe fydd sioe i’w gweld sy’n ceisio cyflwyno Prosser Rhys i gynulleidfa newydd, ganrif ers iddo ennill y Goron gyda cherdd yn cynnwys rhyw…

Mae cynhyrchiad newydd unigryw sy’n ymateb i gerdd fuddugol bardd Coron Eisteddfod Genedlaethol 1924 a’i gwaddol yn mynd ar y lôn.

Wynebodd Edward Prosser Rhys gamdriniaeth a sarhad mewn ymateb i’w gerdd ‘Atgof’, ar ôl iddi ddod i’r brig yn Eisteddfod Pont-y-pŵl.