Bu Golwg mewn digwyddiad yn y Senedd i siarad â rhai o gystadleuwyr llwyddiannus yr haf o Gymru… a Barbados!

Mae athletwyr o bob math wedi bod yn dathlu eu llwyddiant yn ystod y gemau Olympaidd a Pharalympaidd dros yr haf.

Dywed nifer o’r cystadleuwyr i Baris fod yn brofiad “gwych” a llawn “balchder”.

Bu 31 o fabolgampwyr yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd o Gymru, y mwyaf erioed, tra bod 56 wedi mynd i’r Gemau Paralympaidd, ac wedi ennill 29 o fedalau.