Mae’r mudiad yn rhoi cyfle i bobol ddysgu siarad Cymraeg tra hefyd yn meithrin gyrfa…

Yn ei degawd o fodolaeth mae Adran Brentisiaethau’r Urdd wedi helpu cannoedd o bobol ifanc i ganfod eu llwybr mewn bywyd, ac eleni mae 180 o brentisiaid yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu a datblygu yn y gweithle.