Byddin o ddrymwyr Samba-Reggae yw Batala Bangor, a dydd Sadwrn diwethaf roedden nhw yn ymosod ar glustiau’r Bangoriaid fu’n casglu yng Nghae Manweb ar gyfer Gŵyl Adda.

Roedd yr ŵyl wedi ei threfnu gan Gwmni Theatr Frân Wen i gyd-fynd gyda’r perfformiad cyhoeddus o’u drama OLION, ac yn ogystal â Batala Bangor fe gafwyd perfformiadau gan Fand Pres Llareggub, Celavi, Crinc a Sister Wives.