Mae gohirio datblygu cymhwyster TGAU Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru’n “benderfyniad siomedig iawn”, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Daw ei sylwadau ar ôl i gorff Cymwysterau Cymru gyhoeddi eu bod nhw wedi penderfynu oedi cyn datblygu cymhwyster TGAU Iaith Arwyddion Prydain o ganlyniad i heriau ymarferol.

Roedd bwriad i gyflwyno’r cymhwyster newydd yn 2027, fel modd i ddysgwyr gael mynediad at sgiliau Iaith Arwyddion Prydain ac i gyfathrebu â’r gymuned Fyddar.

Mewn datganiad, dywed Cymwysterau Cymru y bydd cymhwyster tebyg ar gael i ddisgyblion mewn Iaith Arwyddion Prydain.

Bydd cymhwyster Sgiliau Bywyd newydd i ddysgwyr 14-16 oed yn cyd-fynd â Chwricwlwm newydd Cymru.

‘Siom’

Mae’r penderfyniad i ohirio datblygiad y cymhwyster wedi arwain at “siom” ymhlith elusennau a’r gymuned Fyddar.

“Mae’n amlwg bod hwn yn benderfyniad siomedig iawn i bobol ifanc Fyddar yng Nghymru,” meddai Rocio Cifuentes.

“Byddaf yn ysgrifennu ar frys at Gymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i fynegi fy mhryder, ac i ofyn pa asesiad sydd wedi’i wneud o hawliau ac anghenion plant Byddar wrth wneud y penderfyniad, ac i bwyso am ffordd glir ymlaen, fel bod atebolrwydd a chefnogaeth i blant Byddar a’u teuluoedd.”