Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg a’r Comisiynydd Plant i ffigurau diweddara’r Llywodraeth, sy’n awgrymu bod cyrhaeddiad addysgiadol disgyblion mwyaf difrientiedig Cymru ymhell y tu ôl i gyrhaeddiad eu cyfoedion, yn enwedig o ran darllen yn Gymraeg.

Mae hyn yn fwy gwir am allu disgyblion i ddarllen Cymraeg, sy’n awgrymu bod problemau difrifol o ran sicrhau bod disgyblion mwyaf difrientiedig Cymru’n llwyddo i gyflawni’u potensial yn yr iaith Gymraeg.

Roedd canlyniadau TGAU dros dro, ac felly heb eu cadarnhau, ar gyfer 2023-24 yn dangos bod y rhai nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn parhau i sgorio’n uwch ar gyfartaledd ar ddangosydd Capio 9 na disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, gyda bwlch o 80.8 pwynt, i fyny o 77.3 yn 2018-19.

Cafodd ymdrechion i wella cyrhaeddiad disgyblion difrieintiedig eu lansio ledled Cymru ym mis Medi eleni.

Serch hynny, dydy’r Llywodraeth ddim wedi datgelu unrhyw gynlluniau penodol i dargedu’r bwlch cyrhaeddiad yng ngallu disgyblion i ddarllen yn y Gymraeg.

Asesiadau blynyddol

Mae ffigyrau mis Mehefin ar sail asesiadau blynyddol penodol gafodd eu cynnal rhwng blwyddyn academaidd 2018/2019 a blwyddyn academaidd 2022/2023.

Roedd yr asesiadau’n orfodol i bob disgybl rhwn Blwyddyn 2 a Blwyddyn 9 yn ystod y cyfnod hwnnw.

Maen nhw’n mesur gallu academaidd disgyblion mewn pedwar maes, sef Rhifedd (Gweithdrefnol), Rhifedd (Rhesymu), Darllen (Cymraeg) a Darllen (Saesneg).

Cafodd yr asesiadau eu cyflwyno’n raddol, ac felly dim ond o’r flwyddyn academaidd 2019/2020 ymlaen mae gwybodaeth am allu darllen yn Saesneg ac yn Gymraeg, a dim ond o’r flwyddyn 2021/2022 mae gwybodaeth am asesiadau Rhifedd (Rhesymu).

Yn ogystal, cafodd ffigyrau 2019/2020 eu diystyru yn adroddiad mis Mehefin yn sgil effaith y pandemig ar allu ysgolion i gynnal yr asesiadau.

Er bod y Llywodraeth yn mynnu mai diben yr asesiadau ydy helpu i ysgolion fesur cynnydd disgyblion unigol, maen nhw hefyd yn cydnabod fod modd defnyddio’r wybodaeth er mwyn cael troslun o sgiliau darllen a rhifedd.

Mae modd cael gwybodaeth ddemograffig ar gyrhaeddiad, er enghraifft, drwy ddadansoddi’r data yn ôl cymhwysedd disgyblion am brydau ysgol am ddim.

Am fod cysylltiad rhwng bod yn gymwys a thlodi neu statws difreintiedig, mae’r dadansoddiad hwn yn medru rhoi braslun o’r cysylltiad rhwng bod yn ddifreintiedig a chyrhaeddiad addysgiadol.

Cafodd y ffigyrau hyn eu cofnodi cyn ymestyn y cynnig am brydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ym mis Medi eleni.

Mae disgyblion yn cael eu categoreiddio’n ‘gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim’, yn ôl y ffigurau hyn, os yw eu cymhwysedd ar sail y ffaith fod un o’u rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Yn ôl adroddiad diweddara’r Llywodraeth, roedd tua 90,000 o ddisgyblion ledled Cymru’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn y flwyddyn academaidd 2022/23.

Mae hyn yn cynrychioli tua 19% o’r 470,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw.

Y bwlch cyrhaeddiad

Caiff y bwlch ei fesur ar sail ‘misoedd’ o wahaniaeth rhwng cyrhaeddiad y disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim a’r rheiny sydd ddim yn gymwys i’w derbyn.

Mae’r misoedd hyn yn cynrychioli faint o amser mae’r rheiny sy’n gymwys ar ei hôl hi o gymharu â’u cyfoedion.

Ym mhob un maes ac eithrio asesiadau Rhifedd (Rhesymu), mae’r bwlch yn cynyddu’n gyffredinol hyd at Flwyddyn 9, lle mae’r bwlch ar ei fwyaf.

Yn achos ffigurau 2022/23, roedd 24 mis o wahaniaeth o ran cyrhaeddiad o ran Rhifedd (Gweithdrefnol), a 29 mis o ran Darllen (Saesneg) ymhlith disgyblion Blwyddyn 9 y flwyddyn honno.

Ond o ran Darllen (Cymraeg) roedd y gwahaniaeth mwyaf, o 40 mis, rhwng disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a’r rheiny sydd ddim.

Mae hyn yn welliant (bach) ar ffigurau’r flwyddyn ddiwethaf, sy’n awgrymu 42 mis o wahaniaeth.

Mae hyn yn awgrymu bod disgyblion Blwyddyn 9 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim hyd at dair blynedd y tu ôl i’w cyfoedion o ran cyrhaeddiad yn eu gallu i ddarllen yn y Gymraeg.

Daw’r ffigurau hyn wedi sawl canlyniad siomedig arall i Lywodraeth Cymru o ran cyrhaeddiad addysgiadol, megis cwymp yng nghanlyniadau PISA Cymru ar gyfer 2022, a bwlch cyrhaeddiad dramatig arall o ran canlyniadau TGAU eleni.

Strategaethau’r Llywodraeth

Fe fu Llywodraeth Cymru yn ceisio targedu effaith tlodi ar gyrhaeddiad ers 2014.

Mae Grant Datblygu Disgyblion wedi’i gynnig i ysgolion er mwyn eu galluogi nhw i fynd i’r afael â phroblemau megis diffyg adnoddau, ac effaith tlodi ar ymddygiad.

Yn ogystal, ym mis Medi eleni, cyhoeddodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, y bydd cynllun peilot Pencampwyr Cyrhaeddiad yn cael ei ehangu ledled Cymru.

Mae’r cynllun, sy’n defnyddio dulliau addysgiadol megis mentora ysgolion partner a rhannu arferion arloesol, yn ceisio mynd i’r afael ag effaith statws difreintiedig ar gyrhaeddiad addysgiadol.

Fodd bynnag, does dim sôn yn y stratagaethau hyn am y gwendid penodol sydd wedi’i nodi uchod, yn y bwlch cyrhaeddiad o ran darllen yn y Gymraeg.

Yn yr un modd, dydy Bil y Gymraeg ac Addysg, sy’n cael ei baratoi gan bwyllgorau’r Senedd ar hyn o bryd, ddim wedi trafod bylchau cyrhaeddiad hyd yn hyn.

Mae hyn yn fan gwan o ran cyflawni amcan y Bil, sef cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, o ystyried cynifer o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.

Mae’r nifer yma o ddisgyblion, ar sail y ffigurau uchod, yn debyg o gwympo tu ôl yn eu gallu fel siaradwyr os nad yw’r mesurau cywir yn eu lle.