Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi’i hagor yn swyddogol, fydd yn hwb i recriwtio meddygon ar gyfer y gogledd.

Cafodd ei hagor yn swyddogol gan Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, a Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Iechyd.

Mae’r darpar feddygon cyntaf i gael eu haddysg yno eisoes wedi dechrau ar eu hastudiaethau y tymor hwn, a’r rheiny newydd adael yr ysgol neu’n mentro i’r ysgol ar ôl graddio.

Bydd yr ysgol newydd yn derbyn 80 o fyfyrwyr eleni, ond mae disgwyl i’r nifer godi i 140 y flwyddyn erbyn 2029-30.

Dechreuodd y gwaith cynllunio yn 2020, pan gytunodd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth.

“Her enfawr” recriwtio meddygon

“Mae recriwtio meddygon â sgiliau’n her enfawr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop,” meddai Eluned Morgan.

“Bydd yr ysgol feddygol yn newid y tirlun o ran recriwtio meddygon yng Nghymru, gan alluogi rhagor o fyfyrwyr meddygol i hyfforddi yn y rhanbarth, sy’n dda i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn enwedig yng ngogledd Cymru.

“Dyma benllanw pum mlynedd o waith caled gan y bwrdd iechyd a’r prifysgolion.

“Yn fuan, bydd yr ysgol yn rhoi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol feddygon sydd wedi derbyn hyfforddiant modern o safon fyd-eang er mwyn rhoi gofal ardderchog a thosturiol yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol at y dyfodol.”

‘Gofal mor agos at adref â phosib’

“Mae agoriad yr ysgol feddygol yn nodi ein hymrwymiad parhau i Wasanaeth Iechyd sy’n rhoi gofal i bobol mor agos at adref â phosib,” meddai Jeremy Miles.

“Dw i eisiau diolch i brifysgolion Bangor a Chaerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am eu gwaith caled wrth droi’r weledigaeth ar gyfer ysgol feddygol yn realiti.

“Drwy ddewis astudio yng Nghymru, bydd myfyrwyr yn elwa ar fynediad at gyfleusterau hyfforddi modern, addysg gofal iechyd flaengar, staff addysgu profiadol, a chefnogaeth barhaus gan staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ar draws y rhanbarth.”

‘Carreg filltir’

“Wrth i ni ddathlu 140 o flynyddoedd ym Mhrifysgol Bangor, mae lansio Ysgol Feddygol Gogledd Cymru’n nodi carreg filltir allweddol i’r brifysgol a’r rhanbarth,” meddai’r Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor.

“Mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i addysg ragorol, ymchwil o’r radd flaenaf, a mynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd lleol.

“Ynghyd â’n partneriaid, rydyn ni’n siapio dyfodol mwy iach drwy hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o bobol broffesiynol ym maes gofal iechyd o fewn ein cymunedau.”

Gofal iechyd dwyieithog

“Bydd yr ysgol feddygol newydd yn allweddol wrth helpu i fynd i’r afael â heriau hyfforddi a chadw meddygon, ac yn cryfhau’r gallu i gyflwyno gofal iechyd dwyieithog ar draws y rhanbarth,” meddai Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Caiff ei gydnabod yn eang fod meddygon yn dueddol o ymarfer yn agos i le maen nhw’n hyfforddi, felly y nod yw annog myfyrwyr i ddatblygu gyrfaoedd hirdymor yng ngogledd Cymru, er lles y boblogaeth a chymunedau lleol.

“Bydd cyfleoedd hefyd o ran datblygiadau mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi drwy weithio mewn partneriaethau.

“Bydd hyn yn cael effaith bositif ar recriwtio a chadw, yn ogystal â gwella canlyniadau i gleifion.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Phrifysgol Bangor i gyflwyno ffrwd newydd o feddygon cymwys sy’n helpu ac yn cefnogi cyflwyno gofal iechyd yn y dyfodol.”

Mae Aelod Seneddol Bangor Aberconwy wedi croesawu’r ysgol newydd.

“Y bennod nesaf hon yn hanes y brifysgol yw’r bennod nesaf i Fangor, i ogledd Cymru ac i’n heconomi ranbarthol hefyd,” meddai Claire Hughes.

“Ar ran ein cymuned leol, rydym yn croesawu pob myfyriwr newydd.”

Ad-dalu

Wrth ymateb i’r agoriad, dywed Sam Rowlands, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, y dylid cynnig ad-daliad i fyfyrwyr o ran eu ffioedd dysgu os ydyn nhw’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio.

“Mae’r newyddion hwn i’w groesawu wrth ddechrau’r broses o leihau’r baich ar Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sy’n dal dan bwysau sylweddol,” meddai.

“Mae galwadau hirdymor y Ceidwadwyr Cymreig am ysgol feddygol yng ngogledd Cymru wedi cael eu hateb, ond dyma’r cam cyntaf yn unig tuag at roi terfyn ar argyfwng gweithlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ac ar y ddibyniaeth ar staff asiantaeth costus.

“Dydy hyfforddi meddygon y dyfodol jyst ddim yn ddigon.

“Nawr, dylai Llafur fabwysiadu cynllun y Ceidwadwyr Cymreig i gynnig eu ffioedd dysgu yn ôl i’r myfyrwyr newydd hyn os ydyn nhw’n ymrwymo i weithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.”

 

Beirniadu Ysgrifennydd Gwladol Cymru am ganmol gofal iechyd deintyddol yng Nghymru

Dale Spridgeon, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’r gwasanaethau’n esiampl i’w dilyn, medd Jo Stevens am wasanaethau sy’n wynebu argyfwng yn ôl gwleidyddion yn y gogledd

Lansio adroddiad yn galw am ysgol ddeintyddol ym Mangor

Roedd cwmni ymgynghori Lafan wedi comisiynu’r ymchwil sy’n rhan o adroddiad Siân Gwenllian heddiw (dydd Gwener, Medi 20)