Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ymosod ar gynlluniau Llafur i dorri gwasanaethau rheilffyrdd canolbarth Cymru.

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai gwireddu’r cynlluniau’n lleihau buddsoddiadau o fewn cymunedau, yn cyfyngu ar gyfleoedd pobol leol, ac yn mynd yn groes i’r cynlluniau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Dywed David Chadwick, Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, fod y toriadau i reilffordd Calon Cymru yn “warth”.

Y toriadau

Bydd gwasanaethau ar reilffordd Calon Cymru yn cael eu torri i bedwar trên y dydd, yn lle pump, o dan reolaeth Trafnidiaeth Cymru.

Yn rhan o hynny, bydd diwedd ar wasanaethau hwyr y nos i Lanymddyfri a Llandrindod.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn torri pedwar gwasanaeth rhwng Machynlleth a Phwllheli hefyd – dau i bob cyfeiriad ar Reilffordd y Cambrian.

Yn ogystal, mae addewidion sydd wedi bod ar y gweill ers dros ddegawd am wasanaeth bob awr ar Reilffordd Cambrian rhwng Aberystwyth a’r Amwythig wedi’u cwtogi.

O haf 2026, dim ond am bedwar mis o’r flwyddyn y bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg.

‘Dim ots am ardaloedd gwledig’

Dadl y Democratiaid Rhyddfrydol yw y bydd y toriadau arfaethedig yn annog pobol i osgoi rheilffyrdd ar draws y canolbarth.

Mae’r blaid hefyd yn beirniadu Llafur am dorri gwasanaethau yn y canolbarth a’r gogledd, wrth iddyn nhw gynyddu gwasanaethau yn y de, gan ddweud ei fod yn dangos unwaith eto nad oes ots gan Lafur am ardaloedd gwledig.

“Gwelwn yr un stori gan Lafur ym Mae Caerdydd,” meddai Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gan ychwanegu bod y sefyllfa’n “ofnadwy”.

“Ar adeg pan ddylen ni fod yn annog y defnydd o reilffyrdd ac ychwanegu gwasanaethau ychwanegol, mae Llafur yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru wneud toriadau ysgubol i wasanaethau mewn ardaloedd gwledig.

“Tra bod gwasanaethau yn ne Cymru yn cael eu cynyddu, mae gogledd a chanolbarth Cymru yn wynebu toriadau.

“Flwyddyn ar ôl blwyddyn, gwelwn yr un stori gan Lafur ym Mae Caerdydd.”

Mae hi bellach yn apelio ar Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, i ymyrryd er mwyn atal y toriadau hyn.

‘Sefyllfa hurt’

Ychwanega David Chadwick fod y toriadau gan Lafur yn “warth llwyr”.

“Mae gennych chi Lafur ar un llaw yn dweud wrth bobol fod angen iddyn nhw ddefnyddio llai ar eu ceir, ond ar y llaw arall maen nhw’n torri ar opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus,” meddai.

“Nid yw’r ddau beth yn mynd gyda’i gilydd.

“Mae’n sefyllfa hurt sy’n dangos pa mor wael y maen nhw’n deall cymunedau gwledig.”

Ychwanega fod angen gwasanaethau rheilffordd mwy dibynadwy sydd yn rhedeg yn amlach ar draws y canolbarth, nid llai.

Dywed fod mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn “hanfodol” er mwyn cynyddu buddsoddiadau economaidd a chyflogaeth, i gefnogi diwydiant twristiaeth ac i ddenu gweithwyr megis meddygon teulu i weithio mewn cymunedau.

“Byddaf yn bwrydro yn erbyn y toriadau hyn gyda fy nghydweithiwr yn y Senedd, Jane Dodds, a’n cynghorwyr lleol,” meddai.

Ymateb

“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd teithwyr yn siomedig gyda’r newidiadau hyn i reilffordd Calon Cymru,” meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

“Fodd bynnag, bydd capasiti’n cael ei wella ar y gwasanaeth hwn dros y misoedd i ddod – gyda mwy o seddi a chapasiti penodedig i feiciau.”