Mae dynes 39 oed o Aberafan wedi’i chyhuddo mewn perthynas â marwolaethau pedwar o bobol ar afon Cleddau dair blynedd yn ôl.

Mae Nerys Bethan Lloyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol ac un cyhuddiad o drosedd o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad yn Sir Benfro ar Hydref 30, 2021, pan fu farw Paul O’Dwyer, Andrea Powell, Morgan Rogers a Nicola Wheatley. Fe wnaeth pedwar arall oroesi’r digwyddiad.

Bydd y diffynnydd yn mynd gerbron ynadon Hwlffordd ar Ragfyr 3.

Dywed yr heddlu fod teuluoedd y rhai fu farw wedi cael gwybod am y cyhuddiadau, gan atgoffa pobol i beidio â gwneud sylw ar y cyfryngau cymdeithasol nac ar-lein gan fod yr achos bellach yn fyw.

Afon Cleddau: tri o bobol wedi marw ac un mewn cyflwr difrifol

Heddlu’n cadarnhau bod criw o bobol wedi mynd i drafferthion yn Hwlffordd