Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod tri o bobol wedi marw a bod un arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad yn afon Cleddau yn Hwlffordd.
Aeth y criw, oedd wedi bod yn padlfyrddio, i drafferthion ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 30).
Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 9 o’r gloch y bore, ar ôl i griw o naw o bobol oedd wedi teithio i Sir Benfro fynd i drafferthion.
Dydy’r union amgylchiadau ddim yn hysbys ar hyn o bryd, ac mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.
Bu farw dwy ddynes ac un dyn, ac mae dynes arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn ôl yr heddlu.
Mae eu teuluoedd yn cael cefnogaeth gan yr heddlu.
Cafodd pump yn rhagor o bobol eu hachub, a chawson nhw mo’u hanafu.
Mae lle i gredu bod aelod o’r cyhoedd wedi mentro i’r dŵr i geisio’u hachub.
Fe fu’r heddlu, y gwasanaeth ambiwlans, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, yr ambiwlans awyr a hofrenyddion yn rhan o’r ymdrechion i achub y criw.
Mae’r ddynes sydd wedi’i chludo i’r ysbyty yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Llwynhelyg.
Mae’r heddlu wedi diolch i’r gwasanaethau brys am eu hymdrechion ac i’r cyhoedd am eu hamynedd, ac maen nhw’n apelio am dystion i’r digwyddiad.
Mae’r crwner a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod, ynghyd â Changen Ymchwilio Damweiniau’r Môr.