Wrth i Fis Hanes Du ddod i ben heddiw (dydd Sul, Hydref 31), mae Kemi Badenoch, Gweinidog Cydraddoldebau San Steffan, yn dweud ei bod hi’n “falch” o weld sylw i bobol ddu ond nad yw hi’n hoffi gweld cyfraniadau “ffuantus”.
Daw ei sylwadau wrth iddi siarad â rhaglen Trevor Phillips On Sunday ar Sky News ar ddiwrnod ola’r mis o ymgyrchu.
“Dw i’n falch iawn fod pobol yn meddwl mwy am gyfraniadau du i hanes Prydain,” meddai.
“Felly dw i wedi hoffi hynny.
“Yr hyn dw i ddim wedi’i hoffi, efallai, yw ymyrraeth sy’n ymddangos yn fwy ffuantus efallai oherwydd bod rhai sefydliadau’n teimlo bod hyn yn rhywbeth mae angen iddyn nhw ei wneud, felly maen nhw’n ei wneud e, ond nid o reidrwydd… mewn ffordd dw i’n credu sy’n ystyrlon nac yn dangos bod ganddyn nhw ddiddordeb ynddo fe.
“A bod yn onest, dw i’n credu bod Mis Hanes Du wedi dod yn fwy o lawer nag yr oedd e’n arfer bod oherwydd fod llawer o bobol yn gwneud gwahanol bethau gyda fe.”
Hanes Prydain a’r Gymanwlad – neu Americanaidd?
“Rhywbeth sydd wedi’i fewnforio o America yw e, sydd ddim bob amser wedi ffitio’n union gyda’r hyn y byddwn i’n ei alw’n hanes Prydain a’r Gymanwlad,” meddai wedyn.
“Ond yr hyn dw i hefyd yn ei weld yw fod gwleidyddoli’n digwydd ym mhob man a dw i’n ei weld e’n digwydd hyd yn oed yn y fan honno lle mae Mis Hanes Du yn dod yn Fis Hanes Hiliaeth, ac nid dyna ddylai e fod.
“Fe ddylai fod yn amser i ni ddod ynghyd ac edrych ar gyfraniadau nad ydyn nhw bob amser wedi cael eu dysgu oherwydd efallai eu bod nhw’n cael eu hystyried yn niche iawn neu dydyn nhw ddim yn draddodiadol yr hyn roedd pobol yn meddwl ddylai fod yn y cwricwlwm.”
Mis Hanes Du yng Nghymru
Cafodd y Mis Hanes Du cyntaf ei gynnal yn y Deyrnas Unedig yn 1987.
Ers hynny, mae Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn y mis sy’n dathlu cyfraniad pobol ddu i’r gymdeithas.
Ei fwriad yw cyfathrebu, addysgu ac ymrymuso unigolion, cymunedau a grwpiau i gydnabod cyfraniad pobol ddu i’r gymdeithas, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
Mae hefyd yn annog y gymuned ehangach i ddathlu cyfraniadau pobol ddu ac i ddysgu am ei gilydd.