Mae un o genhadon uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn rhybuddio am ddyfodol ei hynysoedd yn y Môr Tawel.

Tina Stege sy’n cynrychioli Ynysoedd Marshall yn yr uwchgynhadledd.

Mae’r ynysoedd yn gorwedd ddwy fetr yn unig uwchlaw lefel y môr, rhwng Hawaii a’r Ffilipinas.

Oni bai bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae hi’n dweud y gallai’r ynysoedd ddiflannu o fewn hanner canrif.

“Cenedl ydyn ni sy’n gorwedd ddwy fetr yn unig uwchlaw lefel y môr,” meddai.

“Rydyn ni’n edrych ar gynnydd o 0.5 metr yn lefel y môr, sy’n golygu cael ein llethu’n flynyddol, ac mae angen i ni ddechrau meddwl am sut i godi lefel y tir ac adeiladau, a sut ydyn ni am oroesi mewn byd 1.5 gradd selsiws.

“Alla i ddim derbyn y canlyniad y bydd Ynysoedd Marshall yn rhan o ebargofiant ymhen 50 mlynedd.

“Dw i ddim yn credu ei bod yn dderbyniol i neb yn y byd yma wfftio gwlad.

“Rydyn ni ar y rheng flaen a ni yw’r fwyaf bregus, ond os ydych chi’n gwarchod y rhai mwyaf bregus, rydych chi’n gwarchod eich hun.

“Rhaid i ni fod â gobaith ar gyfer ein dyfodol.”

Effeithiau newid hinsawdd

Yn ôl Tina Stege, sydd wedi bod yn siarad ar raglen Andrew Marr ar y BBC, mae’r ynysoedd sydd â phoblogaeth o 60,000 eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd.

“Rydyn ni’n gweld sychder hirach a mwy dwys, sy’n ddrwg i ni gan ein bod ni’n dibynnu ar ddŵr glaw y mae’n rhaid i ni ei gasglu er mwyn cael dŵr i’w yfed, felly rydyn ni eisoes yn gweld yr effeithiau hynny,” meddai.

“Ar adegau llanw uchel iawn, rydyn ni’n gweld y dŵr yn byrlymu i fyny i’r ddaear.

“Rydyn ni’n rhoi cynlluniau ar waith ond mae gwir angen i ni wneud hynny gyda chymorth gweddill y byd.”

Mae hi’n dweud bod yr ynysoedd yn canolbwyntio ar gynllun i addasu i effeithiau newid hinsawdd, ond fod angen addasu’n well yn y tymor hir.

“Rhaid i ni i gyd wneud mwy,” meddai.

“Cenedl fach ydyn ni ond rydyn ni wedi cymryd hyn [newid hinsawdd] o ddifri a ni oedd y [wlad] gyntaf i gyflwyno targedau ac i droi at ynni adnewyddadwy.

“Rydyn ni’n gweithio’n galed ar ein cynllun addasu dw i’n credu y dylai pob gwlad fod ag un.

“Os gallwn ni ei gwneud hi, gall pob gwlad.

“Mae’r COP yma’n bwysig dros ben.

“Rydyn ni wedi bod dan glo ers Chwefror 2020 a dyma’r tro cyntaf i’n llywodraeth ddod allan oherwydd rydyn ni’n cydnabod fod hon yn eiliad enfawr a bod rhaid i ni wynebu nad ydyn ni ar y trywydd cywir.

“Mae angen i ni weld terfyn ar ariannu tanwydd ffosil, mae angen i lo fynd a dyma lle gallwn ni ategu yr yr hyn welson ni yn Paris, mai 1.5 gradd selsiws yw’r ffordd tuag at ddyfodol diogel.”

 

COP26 yn dechrau’n swyddogol

Bydd y Tywysog Charles yn traddodi’r araith agoriadol yn Glasgow wrth i arweinwyr gwleidyddol ymgasglu i drafod newid hinsawdd