Mae adroddiadau bod pobol wedi marw yn dilyn digwyddiad yn afon Cleddau yn Hwlffordd.

Yn ôl yr adroddiadau, cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ardal ar ôl i bobol fynd i drafferthion, ac fe wnaethon nhw dynnu person o’r afon a’i gludo i Ysbyty Llwynhelyg.

Fe fu’r heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, y gwasanaeth ambiwlans a hofrenyddion yn rhan o’r ymdrechion i achub y bobol.

Mae lle i gredu bod y chwilio bellach wedi dod i ben, a bod ymchwiliad bellach ar y gweill.

Roedd rhybudd am lifogydd wedi bod mewn grym ar gyfer yr afon ers dydd Gwener (Hydref 29), ac mae’r rhybuddion yn parhau heddiw (dydd Sul, Hydref 31) gan fod disgwyl rhagor o law trwm.

Mae nifer o wleidyddion wedi ymateb i’r digwyddiad hefyd, gan gynnwys Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.