Mae uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 yn dechrau’n swyddogol yn Glasgow heddiw (dydd Sul, Hydref 31), gydag anerchiad swyddogol gan y Tywysog Charles.

Mae arweinwyr gwleidyddol gwledydd mwyaf pwerus y byd wedi bod yn ymgasglu yn y ddinas yn yr Alban i drafod un o bynciau mwyaf arwyddocaol y flwyddyn.

Tro’r Deyrnas Unedig yw hi i gynnal y 26ain cynhadledd eleni, sy’n canolbwyntio ar yr ymdrechion i gyfyngu’r cynnydd mewn cynhesu byd-eang o dan 1.5 gradd selsiws, ond mae’r prif weinidog Boris Johnson eisoes wedi mynegi amheuon na fydd modd cyrraedd y nod eleni.

Cafodd yr uwchgynhadledd COP ei chynnal yn Berlin yn yr Almaen yn 1995 a phob blwyddyn ers hynny, mae arweinwyr gwleidyddol wedi dod ynghyd i drafod pynciau llosg ym maes yr amgylchedd a newid hinsawdd.

Mae’r uwchgynhadledd eleni’n nodi pum mlynedd ers cytundeb hinsawdd Paris yn ystod COP21, pan gytunodd bron bob un o wledydd yr uwchgynhadledd ar gamau i arafu newid hinsawdd, ac mae’r uwchgynhadledd eleni’n gyfle i asesu llwyddiant y cytundeb hwnnw ac i osod nodau ac amcanion newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Fory (dydd Llun, Tachwedd 1), fe fydd Boris Johnson yn cynnal y seremoni agoriadol cyn i’r uwchgynhadledd ddechrau go iawn, gydag arweinwyr gwleidyddol yn cyflwyno’u dulliau o geisio cyrraedd y nod o allyriadau carbon sero net.

Mae gan y Deyrnas Unedig bedwar prif syniad, sef sicrhau sero-net yn fyd-eang erbyn canol y ganrif a chadw’r nod o gyfyngu’r cynnydd mewn cynhesu byd-eang i lai nag 1.5 gradd selsiws, addasu i warchod cymunedau a chynefinoedd naturiol, sicrhau cyllid i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chydweithio i gyrraedd targedau ar y cyd â gwledydd eraill.

Dros y penwythnos hwn, mae disgwyl i wledydd sy’n cymryd rhan yn yr uwchgynhadledd amlinellu sawl addewid a sawl datganiad ynghylch targedau’r gwledydd unigol.

Fory (dydd Llun, Tachwedd 1) a dydd Mawrth (Tachwedd 2), fe fydd arweinwyr gwleidyddol yn galw am ragor o weithredu ym maes newid hinsawdd, gan gynnwys Xi Jinping, arweinydd Tsieina, fydd yn dweud bod ei wlad am fynd â’r maen i’r wal.

Ddydd Iau (Tachwedd 4), fe fydd Alok Sharma, Llywydd COP26, yn amlinellu’r frwydr i gefnu ar lo, ac mae disgwyl i rai gwledydd lofnodi cytundeb “Dim Glo Newydd” y Cenhedloedd Unedig.

Ddydd Gwener (Tachwedd 5), mae disgwyl i Greta Thunberg annerch protest newid hinsawdd yn y wlad.

Ar Dachwedd 10, fe fydd yna ddiwrnod o ganolbwyntio ar effaith trafnidiaeth ar newid hinsawdd, gyda sylw i dorri allyriadau carbon pan fydd Boris Johnson yn gobeithio am gyhoeddiad ynghylch gwaharddiadau ar werthu ceir petrol a diesel.

Bydd yr uwchgynhadledd yn dod i ben ar Dachwedd 12, pan fo disgwyl i’r uwchgynhadledd gyhoeddi eu nod gyffredin o gyfyngu’r cynnydd mewn newid hinsawdd i 1.5 gradd selsiws, ac fe allai’r arweinwyr gyhoeddi targedau newydd i’w cyrraedd erbyn 2023.