Mae teulu bocsiwr du o Gymru yn hawlio ymddiheuriad am y ffordd y cafodd ei rwystro rhag cystadlu’n broffesiynol oherwydd lliw ei groen.
Cuthbert Taylor, o Merthyr Tudful, oedd y bocsiwr du cyntaf i gynrychioli Prydain yn y Gemau Olympaidd, yn Amsterdam yn 1928, a chafodd ei ddisgrifio unwaith fel y “gorau yn Ewrop”.
Ond chafodd ei ddoniau erioed eu cydnabod yn llawn oherwydd gwaharddiad lliw Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain (BBBC) a oedd mewn grym rhwng 1911 ac 1948, a’i hamddifadodd rhag cystadlu am deitl Prydain.
Ganed Cuthbert Taylor yn 1909 i’w dad Cuthbert a oedd o dras Caribîaidd a’i fam Margaret, Cymraes wen, ac felly cafodd ei farnu fel rhywun “nad oedd yn ddigon gwyn i fod yn Brydeinig”.
Cafodd cofeb iddo ei dadorchuddio ym Merthyr heddiw (dydd Sadwrn), ar y safle lle byddai’n ymarfer, i nodi Mis Hanes Du, sy’n nodi: “Cafodd ei amddifadu o’r cyfle i lwyddo oherwydd lliw ei groen”.
Yn cymryd rhan yn y seremoni dadorchuddio heddiw roedd ei deulu, gan gynnwys ei wyr, Alun Taylor, ac Aelod Seneddol Merthyr, Gerald Jones.
Roedd Gerald Jones wedi arwain dadl yn Nhy’r Cyffredin y llynedd ar gam-wahaniaethu hanesyddol mewn bocsio, gan ei defnyddio i alw am ymddiheuriad i’r teulu.
“Fe wnaeth y polisi hiliol a chywilyddus hwn rwystro llawer o bobl rhag gwireddu eu potensial, ac mae’n anghredadwy fod Bwrdd Rheoli Bocsio Prydain yn dal heb ymddiheuro,” meddai.
Cafodd galwad Gerald Jones ei chefnogi hefyd gan Arweinydd Ty’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg.
“Doeddwn i ddim yn gwybod am Cuthbert Taylor, ond roedd iddo gael ei wahardd oherwydd ei liw ar unrhyw bwynt yn ein hanes yn gwbl warthus, a dylai unrhyw sefydliad a fu’n ymwneud â hynny geisio cywiro’r camwedd,” meddai.
Enillodd Cuthbert Taylor, bocsiwr bantam a phwysau ysgafn, 151 o ornestau, daeth yn gyfartal mewn 22 a chollodd 69 rhwng 1928 ac 1947.
Bu farw yn 1977 yn 67 oed.