Mae gwaith cyngor tref yn y gogledd wedi cael ei atal gan aelodau o’r cyhoedd a darfodd ar gyfarfod o’r cyngor nos Iau yn gwrthod cydymffurfio â’i ofynion iechyd a diogelwch.

Yn dilyn yr helynt, fe fydd swyddfeydd Cyngor Tref Llanrwst yn aros ar gau am gyfnod amhenodol.

Cyhoeddodd y clerc, Ross Morgan, gyda chefnogaeth pawb ond un o’r cynghorwyr, fod yn rhaid cymryd camau o’r fath er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd ac aelodau a staff y cyngor.

Er na wnaeth neb o’r protestwyr esbonio pam eu bod yn targedu’r cyngor tref fel hyn, barn gyffredinol y cynghorwyr yw mai gwrthwynebiad cyffredinol i bolisïau brechu Covid-19 llywodraethau Cymru a Phrydain yw eu prif gymhellion.

Roedd y cyngor wedi cymeradwyo asesiad risg a mesurau diogelwch y mis diwethaf, yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Roedd y polisi’n ei gwneud yn ofynnol i bawb a oedd yn ymweld â’r swyddfeydd wisgo mygydau, cymryd prawf tymheredd a datgan a oedden nhw wedi wedi cael eu brechu ai peidio.

“Mae’r polisi’n gofyn i unrhyw un sy’n gwrthod cydymffurfio â’r gofynion hyn i adael yr adeilad, gyda chynnig i ddilyn y cyfarfod ar Zoom,” esboniodd Ross Morgan mewn datganiad.

Gwrthod gadael

Cyn i’r cyfarfod gychwyn nos Iau, roedd 10 o aelodau o’r cyhoedd wedi dod yno, yn gwrthod cydymffurfio â’r gofynion a gwrthod gadael pan ofynnodd y clerc a’r Maer, Kevin Hughes, iddyn nhw wneud hynny.

Oherwydd hyn, bu’n rhaid i’r cyfarfod gael ei ohirio, gyda chyfarfodydd eraill yn debygol o orfod cael eu cynnal ar Zoom.

Yn ei ddatganiad, dywed Ross Morgan, a oedd eisoes wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddeol fel clerc, bod y sefyllfa’n peri siom a gofid enbyd iddo.

“Mae’n ymddangos fod hyn i gyd yn cael ei achosi gan grwp anghynrychioliadol o unigolion sy’n benderfynol o orfodi eu barn ar y dref, gan achosi rhaniadau a drwgdeimlad ond heb gymryd dim cyfrifoldeb am eu gweithredoedd,” meddai.

“Mae hi wedi bod yn fraint imi roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned dw i wedi bod yn falch o’i galw’n gartref imi ers 34 o flynyddoedd. Mae cryn bwysau arnaf i barhau yn fy swydd, ond alla i ddim rhagweld y gallaf wneud hyn gydag awyrgylch mor wenwynig yn cael ei chreu yn ein cymuned, a’r hyn sydd yn fy marn i yn agwedd ddi-hid tuag at ddiogelwch yn wyneb Covid.”