Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Yr awdur, actor a chyd-gyfarwyddwr Ysgol Glanaethwy, Cefin Roberts, sydd wedi bod yn rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Cefin yn byw ym Mangor, gyda’i wraig Rhian…
Fy atgof cyntaf o fwyd ydy cael bara llefrith wedi imi gael y ffliw yn blentyn. Ciwbiau o fara wedi eu mwydo mewn llefrith cynnes a llwyaid dda o siwgwr wedi ei daenu dros y cyfan; bwyd cysur i’ch cryfhau pan na allech stumogi unrhyw beth arall.
Roedd Mam yn gogydd arbennig ond, fel y rhan fwyaf o rieni’r ’50au, doedd o ddim yn fwyd arbrofol iawn. Ond mi oedd o’n hynod o flasus. Wedi byw drwy gyfnod y rhyfel a phrinder a rasiwns, roeddan nhw’n gwybod sut i wneud pryd blasus o fwyd allan o’r cynhwysion symlaf.
Roeddem yn byw ar dyddyn bychan y tu allan i bentref Llanllyfni, a chadwai ‘nhad lond iard o ieir. Digon o wyau a chyw iâr ffres i ginio bron bob Sul. Ond dw i’n cofio i ‘mrawd a minnau ypsetio’n arw pan ddeudodd fy nhad wrthan ni mai Betsan oedd ar ein plât y Sul hwnnw! Betsan! Ein hoff iâr! Aaaawwww!
Mae ’na restr faith o fwydydd dw i’n troi atyn nhw am gysur – caws, siocled, porc peis, sosej rôl, chips, hufen iâ Cadwaladers, cyri, Cantonese, crymbl mwyar duon, pei pysgod, tatws sdwnsh, sdwnsh rwdan, cig oen, bacon baps, lobsgows, madarch a chaws ar dôst, bisgets, crisps ayb, ayb, ayb!
Rydan ni’n gweithio oriau anghymdeithasol iawn yng Nglanaethwy ac yn dysgu pan fo’r rhan fwyaf o deuluoedd yn eistedd i lawr i swpera ar amser call. Bwyta rhwng cromfachau wnawn ni bob noson o’r wythnos waith. Felly, pryd o fwyd delfrydol i Rhian a finna fydd mynd allan i fwyta ar benwythnosau a chael rhywun i’w weini inni. Mae’r awyrgylch a’r gwin iawn yr un mor bwysig â’r pryd bwyd ei hun; cwmni ffrindiau da hefyd yn ychwanegu at greu noson arbennig. Os ydi’r pwrs yn caniatáu a’i fod ar y fwydlen, yna fe fyddwn bob amser yn dewis cimwch. Unrhyw fwyd môr a dw i’n ddyn hapus iawn.
Ysgytlaeth mefus sy’n fy atgoffa o’r haf. Mae’r blas yn llawn o bob math o atgofion o mhlentyndod. Er bod yn well gen i fafon na mefus fel ffrwyth – ond mefus bob tro mewn ysgytlaeth.
Dw i’n gwneud pei pysgod dda iawn! Fydda i’n prynu ‘mhysgod yn ffres o’r siop ym Mhorth Penrhyn ym Mangor; wrth fy modd yn mynd yno ar hyd Lôn Las Ogwen ar fy meic a phrynu bagiad o bysgod i wneud y pei. Oni bai am bysgodyn yn neidio’n syth o’r môr ar eich plât, chaech chi ddim bwyd mwy ffres na hyn.
Er bod gen i lond silffoedd o lyfrau coginio yn y tŷ, anaml iawn y bydda i yn eu defnyddio. Unwaith dw i wedi dysgu sut mae unrhyw rysáit yn gweithio, yna fe fydda i’n rhoi fy stamp fy hun arno yn mynd ato am yr eildro; y wefr yna o ddarganfod y gallwch arbrofi gyda’ch cynhwysion unwaith ’dach chi wedi meistroli’r basics sy’n rhoi’r boddhad mwya’. Gas gen i orfod mynd yn ôl at lyfr drwy’r amser i weld be’ sy’ fod i ddigwydd nesa’. A phan dw i’n rhedeg allan o syniadau, dw i’n mynd yn ôl a chodi’r ffôn unwaith eto ar HelloFresh! Tydyn nhw erioed wedi fy siomi!
Un o’r pethau dw i’n gasáu fwyaf ydy gwastraffu, a phobol yn rhoi lluniau o brydau bwyd ar weplyfr a Twitter. I be’?