Oeddech chi’n gwybod mai Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yw’r eirin hynaf yng Nghymru? Mae’n debyg eu bod nhw dros 300 mlwydd oed ac yn hŷn nag eirin Fictoria.
Mae lle i gredu bod eirin Dinbych wedi cael eu tyfu gan fynachod yn y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r cofnod cyntaf ohonyn nhw yn 1785.
Yn 2019, cafodd Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd statws bwyd gwarchodedig (PDO) gan y Comisiwn Ewropeaidd. Roedd Grŵp Eirin Dinbych, gafodd ei sefydlu yn 2009, wedi gwneud cais am y statws arbennig yma er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ffrwyth. Mae’n golygu bod gan Eirin Dinbych Dyffryn Clwyd yr un statws â chregyn gleision Conwy, cig oen a chig eidion Cymreig, a Halen Môn, ymhlith bwydydd eraill.
Bob blwyddyn, mae Grŵp Eirin Dinbych yn cynnal gŵyl yn y dref i ddathlu’r ffrwyth. A heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5) bydd Gwledd Eirin Dinbych yn Neuadd y Dref ac yn cynnwys stondinau bwyd a diod, crefft ac arddangosiadau barbeciw rhwng 10yb a 4yp.
Yn ôl Grŵp Eirin Dinbych, mae’r ŵyl yn helpu i hyrwyddo’r defnydd o’r eirin ac i gael mwy o gynhyrchwyr bwyd bach i ddefnyddio’r ffrwyth yn eu cynnyrch nhw. Mae hefyd yn gyfle i roi Dinbych “ar y map”.
Er nad oes cymaint o’r eirin ar gael eleni oherwydd y tywydd gwael dros yr haf, fe fydd yr ŵyl yn parhau a bydd digon o eirin ar gael, meddai’r trefnwyr.