Dydi Kamala Harris ddim heb ei gwendidau, o bell ffordd, fwy na neb arall. Ond hi ar hyn o bryd ydi unig obaith y byd gwaraidd yn erbyn lluoedd y fall. Mae cyfrifoldeb anferthol wedi cael ei osod ar ei hysgwyddau, ac all rhywun ond gobeithio y bydd yn llwyddo i oresgyn y rhwystrau sy’n cael eu pentyrru yn ei herbyn.
Y gwir amdani ydi na ddylai pethau fod wedi dod i hyn. Mae’r ffaith fod Donald Trump yn gallu sefyll am yr arlywyddiaeth – heb sôn am gael ei barchu fel ymgeisydd dilys – yn fethiant difrifol ar ran llywodraeth America dros y tair blynedd ddiwethaf.
Roedd yr hyn a wnaeth Trump ar Ionawr 6, 2021 – heb sôn am ei ymddygiad fel arlywydd – yn fwy na digon o reswm dros ei wahardd rhag byth cael bod yn ymgeisydd eto. Roedd yn amlwg yn fod yn rhoi pob anogaeth a chymeradwyaeth i’r mob a ymosododd ar y Capitol yn Washington, ac yn ymhyfrydu yn y cythrwfl. Dangosodd hefyd ei fod yn gwbl ddi-hid fod bywydau pobl gan gynnwys ei ddirprwy arlywydd Mike Pence yn cael eu rhoi mewn perygl.
Mae’r ymdrechion i’w erlyn wedi bod yn llawer rhy araf a llywaeth a does dim hanner digon wedi ei wneud i’w danseilio. Mae’r gyfundrefn y bu ef mor ddirmygus ohoni, ac a wnaeth ymdrechu gymaint i’w dinistrio, wedi bod yn llawer iawn rhy deg a charedig tuag ato.Canlyniad hyn i gyd ydi bod tynged gwlad fwyaf pwerus y byd yn dibynnu ar anwadalwch niferoedd bach iawn o etholwyr mewn dyrnaid bach o daleithiau ymylol.
Normaleiddio celwyddau
Un o ddylanwadau mwyaf dinistriol mae Trump a’i debyg eisoes wedi’i gael ar wleidyddiaeth America ydi’r ffordd mae dweud celwyddau noeth yn cael ei normaleiddio yno.
Mae gwleidyddion bob amser, wrth gwrs, yn ystumio rhywfaint ar y gwir i’w dibenion eu hunain. Ond trwy ddiystyru a cheisio gwadu ffeithiau cwbl ddiamheuol mae dilynwyr Trump wedi croesi trothwy allweddol i fyd llawer mwy celwyddog nag a ddylai fod yn dderbyniol mewn unrhyw gymdeithas ddatblygedig.
Canlyniad hyn i gyd yw bod cyfran gynyddol o’r boblogaeth yn colli’r gallu i wahaniaethu rhwng y gwir a’r gau a thrwy hynny mae’r holl system ddemocrataidd yn cael ei gwenwyno.
Pan fo hyn yn digwydd mae pob rhesymeg yn cael ei daflu drwy’r ffenest.
Gwelwyd enghraifft o hyn yn y ddadl deledu rhwng Trump a Kamala Harris.
Cafodd cyflwynwyr y rhaglen eu cyhuddo o ochri yn erbyn Trump oherwydd iddo gael ei gywiro mewn ‘fact check’ fwy o weithiau nag a gafodd Kamala Harris. Ond os ydi ymgeisydd yn dweud mwy o anwireddau na’i wrthwynebydd, mater o synnwyr cyffredin ydi bod angen ei gywiro’n amlach.
Roedd ei anwireddau’n cynnwys honiadau heb ddim sail iddyn nhw fod mewnfudwyr yn dwyn cŵn a chathod i’w bwyta. Mae’n debyg mai ei honiad mwyaf diystyr a hurt o’r cwbl oedd pan ddywedodd fod rhai taleithiau sydd o dan reolaeth y Democratiaid yn America yn caniatáu “erthyliad ar ôl genedigaeth”.
Er ei bod yn hawdd chwerthin am ben pethau mor wirion, ni ellid diystyru’r drwg sy’n cael ei wneud i ddemocratiaeth wrth sarhau deallusrwydd etholwyr i’r graddau hyn.
Gwaeth na dim ond ffŵl
Temtasiwn yn aml ydi diystyru Trump fel tipyn o ffŵl, neu fel rhyw fersiwn Americanaidd o Boris Johnson.
Mae’n llawer iawn, iawn gwaeth na hynny. Mae’r math o gwlt personoliaeth sydd wedi datblygu o’i gwmpas yn ei wneud yn ffigur hynod o beryglus. Er mor wirion ydi o, mae hefyd yn hynod dwyllodrus, a rhan allweddol o’r twyll ydi’r ddelwedd mae’n ei roi ohono’i hun fel dyn busnes llwyddiannus. Does dim amheuaeth chwaith fod llygredd wedi yn rhan annatod o’i holl gorfforaethau dros y blynyddoedd.
Mae ganddo bobl beryglus iawn y tu ôl iddo hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys y strategydd gwleidyddol asgell dde, Steve Bannon, sydd wedi cael ei gollfarnu’n euog a’i garcharu am nifer o droseddau. Heb anghofio, wrth gwrs, yr holl gorfforaethau llwgr sy’n dibynnu arno i roi penrhyddid iddyn nhw dreisio’r amgylchedd.
Lawn mor frawychus ydi’r edmygedd mae Trump wedi ei ddangos tuag at unbenaethiaid gwaedlyd fel Vladimir Putin.
Yn sgil ei gefnogaeth gadarn a chyson i Benjamin Netanyahu pan oedd mewn grym, gallwn ddisgwyl y bydd hwnnw’n cael rhwydd hynt i beri mwy fyth o anfadwaith pe byddai’n llwyddo i ailgipio grym.
Yn wir, rhaid amau fod rhyw fath o ddealltwriaeth rhwng Netanyahu a Trump ar hyn o bryd. Hawdd credu mai un o gymhellion Netanyahu ydi creu hynny ag sy’n bosibl o gyflafan yn y Dwyrain Canol er mwyn adlewyrchu’n wael ar America yn y gobaith y gallai hyn helpu Trump i ennill. Byddai’n rhaid bod yn hynod ddiniwed i beidio â chredu ei fod yn cael pob anogaeth gan Trump yn hyn o beth.
Amddiffyn democratiaeth
Byddai rhai yn dadlau mai hanfod democratiaeth yw mai’r ‘bobl’ sy’n iawn bob tro, a’i bod yn rhesymol disgwyl i’r enillwyr a’r collwyr gydymffurfio â barn yr etholwyr beth bynnag y bo.
Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn wir, ond dim ond cyn belled â bod pawb yn cadw o fewn terfynau egwyddorion sylfaenol fel tegwch a pharch.
Ambell dro, fodd bynnag, gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth na hyn. Weithiau, gall democratiaeth fod yn fygythiad i’w pharhad ei hun os yw etholwyr yn cael eu swyno gan bobol gwbl dwyllodrus sydd â dirmyg llwyr at y drefn. Roedd hyn yn sicr yn wir yn yr Almaen yn yr 1930au pan gipiodd y Natsïaid rym drwy ddulliau democrataidd yn y lle cyntaf, gan arwain at ddileu etholiadau wedyn nes iddyn nhw gael eu gorchfygu yn y rhyfel.
Wrth gwrs, mae cyfundrefn wleidyddol America heddiw yn llawer cryfach nag oedd yng ngweriniaeth Weimar bron i ganrif yn ôl. Er hynny, ni ddylid diystyru rhai o’r peryglon all ddod yn sgil ymgeisydd a wnaeth ei orau i wyrdroi etholiad blaenorol trwy drais.
Mewn achosion o’r fath, mae pob cyfiawnhad mewn defnyddio dulliau mwy anghyfansoddiadol er mwyn amddiffyn democratiaeth.
Y gwir cas amdani ydi na allwch chi ddibynnu ar allu ymladd pobl fel Trump trwy deg. Mae ei holl ymddygiad wedi dangos mai’r unig iaith mae’n ei deall yw trwy daro’n ôl yr un mor ddichellgar a milain yn ei erbyn.
Pan gafodd ei ethol gyntaf yn 2016 gobaith llawer oedd na fyddai cyn waethed fel arlywydd ag y byddai pobl wedi ei ofni. Ofer fu’r gobaith hwnnw gan iddo brofi i fod yn llawer gwaeth. Gallwn fod yn sicr y bydd hyn yn fwy gwir fyth os digwydd yr hunllef iddo gael ei farnu’n fuddugol yn yr etholiad y mis nesaf.
Byddai’n sicr o lenwi swyddi allweddol y llywodraeth â’i gynffonwyr er mwyn cael gweithredu’n ddilyffethair. A phe byddai unrhyw brotestiadau torfol yn erbyn ei bolisïau, gallwn ddisgwyl y bydd plismyn yn cael pob anogaeth i gam-drin unrhyw brotestwyr – gan gynnwys eu saethu heb ofni dim canlyniadau.
Bydd yn rhy hwyr wylofain a rhincian dannedd bryd hynny am na wnaed yr hyn oedd ei angen er mwyn ei rwystro.
Etholiad tyngedfennol
Er na fyddwn ni’n cael pleidleisio y mis nesaf, mae etholiad America am fod yn un o etholiadau mwyaf tyngedfennol ein hoes. Gyda dyfodol democratiaeth gwlad mor bwerus yn y fantol, gall effeithio ar fywydau pobl ledled y byd.
Byddai cyfeillgarwch Trump â Putin yn sicr o olygu bygythiad cynyddol gan Rwsia i wledydd dwyrain Ewrop, yn ogystal â diwedd ar unrhyw obaith am gydweithio rhyngwladol i warchod yr amgylchedd.
Er gwaethaf popeth, y calondid mwyaf ydi bod miliynau ar filiynau o Americanwyr yn gwirioneddol gasáu’r math o werthoedd afiach mae Trump a’i giwed yn ei gynrychioli. Maen nhw’n benderfynol o amddiffyn eu gwlad dros yr wythnosau nesaf rhag y cenfaint o foch sy’n eu bygwth. Allwn ni ond dymuno pob nerth iddyn nhw daro’n ôl yn gwbl ddidrugaredd yn eu herbyn, ac ysbrydoli digon o’u cydwladwyr i sefyll yn y bwlch ar awr mor dyngedfennol.