Mae Cyngor Gwynedd am ehangu’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag er mwyn cefnogi mwy o brynwyr tai lleol.
Daw’r newidiadau fel rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i fynd i’r afael â’r nifer uchel o dai gwag yn y sir a darparu cefnogaeth i bobol Gwynedd fyw’n lleol.
Bydd y grant, oedd ar gael yn flaenorol i brynwyr tro cyntaf yn unig, bellach yn agored i bob prynwr cymwys.
Yn ogystal, mae uchafswm y grant hefyd wedi cynyddu o £15,000 i £20,000 i adlewyrchu cynnydd yng nghostau nwyddau a gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
Bwriad y cynllun, sydd wedi bod yn weithredol ers 2021, yw dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy gynnig grant i adnewyddu cartrefi i safon byw dderbyniol.
Caiff y cynllun gwerth £4m ei ariannu gan gyllid o’r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi, ac mae eisoes wedi helpu bron i 170 o drigolion y sir.
Nid dyma’r addasiad cyntaf i’r cynllun grantiau, ar ôl i’r Cyngor ymestyn y meini prawf fis Awst diwethaf i gynnwys tai segur oedd yn arfer bod yn ail gartrefi – hynny yw, eiddo ble roedd disgwyliad fod y perchennog yn talu Premiwm Treth Cyngor.
Dyma un o 33 prosiect yng Nghynllun Gweithredu Tai gwerth £140m y Cyngor i sicrhau bod gan bobol Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.
Mae’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag yn un o nifer o gynlluniau sydd ar gael i helpu i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.
Mae’r cynlluniau eraill yn cynnwys gostyngiadau TAW ar adnewyddu eiddo sydd wedi bod yn segur, benthyciadau gan Lywodraeth Cymru, a Chynllun Lesu Cymru, sy’n caniatáu i landlordiaid lesu eiddo gwag i’r Cyngor am incwm gwarantedig.
‘Heb y grant, fysa ni ddim lle ydan ni rŵan’
Un sydd wedi derbyn y grant yw Gethin Jones, sydd wedi prynu cartref yn Chwilog ger Pwllheli.
“Rydan ni’n edrych ymlaen at setlo lawr yn ein cartref yma yn Chwilog, a chychwyn pennod newydd fel teulu efo babi ar y ffordd,” meddai.
“Mae’r Grant Cartrefi Gwag wedi’n helpu ni i gwblhau atgyweiriadau hanfodol i’r tŷ, fel gosod ffenestri newydd, ailadeiladu’r simnai a gwaith trydanol, yn llawer cyflymach na fysa ni wedi gallu gwneud ar ben ein hunain, a chael y lle yn barod i ni fel teulu mewn da bryd.
“Heb y grant, fysa ni ddim lle ydan ni rŵan, mae hynny’n saff!
“Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cario ymlaen i weithio ar y tŷ a’i wneud yn gartref am flynyddoedd i ddod.
“Roedd y tŷ wedi bod yn wag ers dros flwyddyn cyn i ni symud i mewn, ac roedd y cyn-berchennog, dynes leol, wir eisiau ei werthu i bobol leol.
“Cafodd y ddau ohonom ein magu yn agos i Chwilog, ac mae’n golygu lot i ni i allu aros yn agos i’n teuluoedd a magu ein plentyn yn yr ardal rydan ni’n ei nabod a’i charu.”
‘Cwbl anfoesol’
“Mae bron i 5,400 o dai gwag yn y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys ail gartrefi, sy’n wrthgyferbyniad llwyr i’r ffaith bod bron i 900 o bobol wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dai ac Eiddo ar Gyngor Gwynedd.
“Mae’n gwbl anfoesol fod gymaint o gartrefi Gwynedd yn segur pan fo’r galw am dai mor uchel ac mae’r ymyrraeth yma, ynghyd â mesurau eraill yng Nghynllun Gweithredu Tai’r Cyngor, yn hollbwysig i ddiogelu dyfodol ein cymunedau.
“Rydym wedi gwrando ar bobol Gwynedd – mae mwy a mwy o bobol angen ein cefnogaeth, boed hynny’n brynwyr tro cyntaf neu deulu sydd mewn angen dybryd am dŷ mwy.
“Mae prisiau hefyd wedi codi ers i ni lansio’r cynllun yn 2021, ac rydym wedi addasu i adlewyrchu’r realiti yma trwy gynyddu’r grant sy’n cael ei gynnig.
“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n edrych i brynu tŷ gwag neu cyn ail gartref i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm Tai Gwag y Cyngor am sgwrs.”