Mae Siân Gwenllian wedi lansio adroddiad yn galw am sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor.

Cafodd ymchwil ei chomisiynu gan gwmni ymgynghori Lafan sy’n sail i adroddiad Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, Llenwi’r Bwlch: Yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor.

Mae’r ysgol ddeintyddol yn rhan o’i gweledigaeth ehangach i droi Bangor yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol ar gyfer addysg feddygol.

Cafodd y lansiad ei gynnal ym Mangor, gyda chyfraniadau gan unigolion o’r brifysgol, y bwrdd iechyd lleol, myfyriwr deintyddol blwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, a chwmni ymgynghori Lafant.

Diffyg mynediad at wasanaethau

Yn ôl Siân Gwenllian, mae’r alwad am Ysgol Deintyddiaeth ym Mangor yn codi o’r argyfwng deintyddol a’r ffaith fod cynifer o’i hetholwyr yn methu â chael mynediad at wasanaethau.

“Mae unigolion a phlant sy’n dymuno gweld deintydd ar gyfer triniaeth neu archwiliad o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn canfod bod hynny yn dasg bron yn amhosib yn etholaeth Arfon,” meddai.

“Mae prinder darpariaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn golygu bod nifer cynyddol o bobol a phlant yn dioddef poen di-angen, yn troi at ddulliau amhriodol o leddfu’r boen, ac yn yr achosion mwyaf difrifol yn gorfod troi at adrannau brys ein hysbytai am gymorth, gan greu baich gwaith ac ariannol y gellid ei osgoi drwy atal y broblem rhag datblygu yn y lle cyntaf, neu o leiaf gychwyn ar y driniaeth yn amserol.”

‘Llenwi’r Bwlch’

Mae Siân Gwenllian, oedd wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros Ysgol Feddygol i Fangor, yn gobeithio defnyddio canfyddiadau’r adroddiad i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddechrau hyfforddi deintyddion ym Mhrifysgol Bangor.

“Mae’r sefyllfa’n wael ar draws Cymru, ond mae tystiolaeth yn dangos bod y broblem o gleifion yn methu cael mynediad at ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol hyd yn oed yn waeth yn ardal bwrdd iechyd y gogledd.

“Yn ogystal â darparu mwy o ddeintyddion gyda chyfran yn debygol o aros yn yr ardal leol, byddai Ysgol Ddeintyddol Bangor yn ychwanegiad pwysig at rôl y ddinas fel canolfan o ragoriaeth mewn hyfforddiant iechyd sy’n cynnwys Ysgol Feddygol Gogledd Cymru newydd y bûm yn ymgyrchu’n llwyddiannus drosti.

“Yn ei dro, byddai hyn yn cryfhau’r economi ym Mangor drwy greu mwy o swyddi newydd o ansawdd.

“Mae manteision lu i Gymru gyfan o sefydlu Ysgol Ddeintyddol newydd ym Mangor ac er mwyn tystiolaethu hyn, comisiynais yr adroddiad hwn gan gwmni ymchwil annibynnol Lafan, ac mae’r casgliadau trawiadol yn cael eu cyhoeddi yma.

“Yn fuan, byddaf yn lansio deiseb y gall pobol leol ei harwyddo i ddangos eu cefnogaeth.

“Cadwch lygad ar fy nghyfryngau cymdeithasol.”