Mae arweinwyr ysgolion o Bacistan wedi ymweld â dwy ysgol yng Nghymru i ddysgu am Ysgolion Bro, ymgysylltu â theuluoedd a llywodraethu ysgolion.

Nod Ysgolion Bro yw mynd i’r afael â’r effaith mae tlodi’n ei chael ar gyrhaeddiad addysgol.

Maen nhw’n cynnig cefnogaeth i blant drwy greu cysylltiad cryf rhwng yr ysgol, teuluoedd a’r gymuned leol drwy gydweithio.

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn gwella presenoldeb, cyrhaeddiad ac ymddygiad a lles plant a dysgwyr, yn ôl tystiolaeth, sydd hefyd yn dangos bod ymgysylltu â’r gymuned yn fanteisiol i ddysgwyr a’u teuluoedd ac yn creu cymunedau grymus a chysylltiedig.

Mae Llywodraeth Cymru am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro.

‘Profiad dysgu cyfoethog’

Fel rhan o raglen dridiau gafodd ei threfnu gan y British Council, ymwelodd dirprwyaeth o ddeg uwch swyddog addysg o’r Punjab a Khyber Pakhtunkhwa ag Ysgol Gynradd Adamsdown yng Nghaerdydd, lle roedd sesiwn Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd wedi’i threfnu ar eu cyfer, ynghyd â gwers bêl-droed o dan arweiniad partneriaid yr ysgol yng Nghlwb Pêl-droed Caerdydd.

Heddiw, maen nhw hefyd yn ymweld ag Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle byddan nhw’n dysgu am ddulliau arloesol yr ysgol o gefnogi disgyblion a’u teuluoedd i ddelio â’r cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Mae’r rhain yn cynnwys cyfleoedd i aelodau’r teulu ddod i sesiynau coginio a gwaith coed.

“Mae hwn wedi bod yn brofiad dysgu cyfoethog a fydd yn ein gwthio i dyfu, yn ein cysylltu â chyd-arweinwyr, ac yn ein hysbrydoli i arloesi yn ein harferion addysgol ein hunain,” meddai aelodau’r ddirprwyaeth.

“Bydd yr ymweliad hwn yn cyfrannu at wella’r sector addysg yn Punjab o ran materion fel cynghorau rheoli ysgolion, ymgysylltu â’r gymuned, cofrestru athrawon ac ardystio.”

Ysgolion Bro’n “hanfodol”

“Mae hi bob amser yn bleser croesawu ymwelwyr rhyngwladol i Gymru, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu arddangos ein Hysgolion Bro,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Maen nhw’n hanfodol wrth gefnogi ein teuluoedd a’n cymunedau a gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

“Mae gwella presenoldeb a chyrhaeddiad yn flaenoriaethau i mi a Llywodraeth Cymru, ac mae Ysgolion Bro yn rhan hynod bwysig o hyn.

“Rwy’n falch iawn bod y polisi da sydd gennym yma yng Nghymru yn ysbrydoli polisïau addysgol mewn mannau eraill.”

Rhan o daith ehangach

Hwylusodd y British Council ym Mhacistan ac yng Nghymru y ddirprwyaeth o Punjab a Khyber Pakhtunkhwa yr wythnos hon, sy’n rhan o ymweliad ehangach i edrych ar arweinyddiaeth a llywodraethu yn ysgolion y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod ag arweinwyr addysg Cymru a’u cymheiriaid yn Punjab a Khyber Pakhtunkhwa at ei gilydd i edrych ar arferion gorau mewn arweinyddiaeth ysgolion yma yng Nghymru,” meddai Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru.

“Rydym yn cydweithio â thros 200 o wledydd ledled y byd, a gall y rhwydwaith hwnnw agor drysau i ddysgu rhyngwladol i Gymru a’r byd.

“Mae’r ymweliad hwn yn dangos datblygiad polisi Cymru yn y fenter Ysgolion Bro, sy’n dod â theuluoedd, ysgolion a gwasanaethau cymunedol ynghyd er budd y dysgwyr, arweinwyr a lles yr ysgol gyfan.

“Dechreuodd ein gwaith gyda Llywodraeth Cymru ac Ysgolion Bro yn 2012, pan gafodd ymweliadau datblygiad proffesiynol â’r Unol Daleithiau eu cynnal i arsylwi ar eu gwaith gydag ysgolion a’r gymuned leol.

“Felly, mae’n hyfryd gweld hyn yn dod i benllanw a Chymru’n cefnogi gwledydd eraill.

“Rwy’n sicr y bydd y profiad hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i’r holl addysgwyr dan sylw, ac yn y pen draw yn gwella profiadau dysgu ac yn cryfhau cymunedau yn y ddwy wlad.”