Mae trigolion Llanberis yn amddiffyn enw da’r ardal ar ôl i griw o saith o gerddwyr o Swydd Gaerhirfryn ddweud na fyddan nhw fyth yn dychwelyd yno ar ôl profi “casineb syfrdanol tuag at Saeson”.

Maen nhw’n rhan o’r grŵp ‘Women to Walk’, sef grŵp o Clitheroe sy’n annog menywod i ymuno mewn teithiau cerdded.

Daeth y saith draw ar daith i Eryri, ac roedden nhw’n awyddus i weld beth oedd gan ogledd Cymru i’w gynnig, ond maen nhw’n honni mai prin iawn oedd y croeso.

Wrth i agwedd anghroesawgar honedig trigolion yr ardal yn creu tensiwn annisgwyl rhyngddyn nhw ac ymwelwyr, mae’r menywod yn honni iddyn nhw dderbyn croeso “gwrth-Seisnig”.

Ymddygiad “bygythiol” tuag at ymwelwyr

Daeth hyn, meddai’r menywod, wedi iddyn nhw dderbyn sylwadau negyddol yn cyfeirio at y ffaith eu bod nhw’n dod o Loegr.

Wrth ymweld â thafarn yn yr ardal, dywedodd Amy, un o’r cerddwyr, fod dyn wedi dweud wrthi am “beidio ag ymwneud â nhw” gan mai Saeson oedden nhw.

Aeth yn ei blaen i ddweud bod ymddygiad yr unigolyn wedi peri iddyn nhw orfod adael y dafarn, gan eu bod nhw’n teimlo’n “ofnus”, a’r sefyllfa’n teimlo’n “fygythiol”.

Wrth ymweld â bwyty arall y diwrnod canlynol, honnodd Amy fod pawb arall wedi cael gwasanaeth oni bai amdanyn nhw, er nad oes tystiolaeth mai oherwydd eu bod yn Saeson roedd hyn wedi digwydd.

Maen nhw hefyd yn honni bod goleuadau tafarn leol wedi cael eu diffodd ar unwaith wrth i un geisio archebu’r diodydd olaf.

Aeth yn ei blaen i ddweud bod ymateb y trigolion lleol yn “syndod” iddi, a hithau wedi ymweld â Chymru o’r blaen.

Yn dilyn ei phrofiad diweddaraf, mae hi’n gyndyn iawn o ddychwelyd i’r ardal, meddai.

Disgrifiodd ei phrofiad fel un “ofnadwy” a “gwrth-Seisnig”, gan ddweud na fyddai hi’n argymell wrth neb y dylen nhw ymweld â’r ardal.

‘Dim teimladau negyddol,’ yn ôl trigolion lleol

Mae’r honiadau hyn wedi denu cryn sylw yn Llanberis ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl Nathan Price, gafodd ei fagu yn Llanberis ac sydd bellach yn gweithio yn siop Crib Goch yn y pentref, mae pawb – yn Saeson neu’n Americanwyr – yn derbyn yr un croeso.

“Mae mwyafrif o’r bobol yn y pentref wrth eu bodd ac mae’r busnesau i gyd yn dibynnu arnyn nhw,” meddai wrth golwg360.

“Fel bob man, ti wastad yn mynd i gael llond llaw o bobol sydd ddim yn keen, ond fyswn i’n dweud bod y rhan fwyaf o bobol Llanber definitely yn croesawu pobol o le bynnag. Mae pawb yn cael croeso [yn y siop], a fyswn i’n meddwl bod pob busnes arall yr un peth yma.”

Dywed ei bod hi wedi bod yn brysurach nag arfer yn Llanberis dros yr haf eleni, ond “dydi hynny ddim yn beth drwg”, meddai.

“Mae’n beth da, ac yn dod â phres i fewn i’r ardal.

“Rydan ni’n cael pobol yn dod o amgylch Ewrop i gyd ac o America, ac mae pawb yn cael croeso.

“Rydan ni’n disgwyl iddi fod yn brysur [yn yr haf], felly rydan ni’n cynllunio o flaen llaw, ond fyswn i’n dweud fod yna ddim teimlad negyddol tuag at y peth o gwbl.”

Denu ymwelwyr, ond ceisio rheoli’r niferoedd

Mae bron i bedair miliwn o bobol yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, gyda thros 600,000 o bobol yn troedio’r Wyddfa.

Ond dim ond ychydig dros 26,000 o bobol sydd yn byw yn yr ardal.

Gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn denu sylw at olygfeydd godidog Eryri, mae’r atyniad o ymweld â’r ardal yn fwy nag erioed, ac fe fu ymdrechion ar waith i geisio rheoli’r niferoedd rhyfeddol sy’n ymweld bob blwyddyn.

Ond, er bod twristiaeth wedi profi’n straen ar ardaloedd fel Llanberis yn y gogledd, mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at incwm busnesau lleol.

Yn ôl Chloe Williams, sydd yn gweithio yn nhafarn boblogaidd The Heights yng nghanol pentref Llanberis, mae’r rhan fwyaf o’u busnes nhw yn dod gan bobol o Loegr.

Mae hithau hefyd o’r farn bod trigolion lleol wastad yn barod i groesawu’r ymwelwyr hynny.

“Rydan ni’n trin pob cwsmer yn union yr un fath.

“Dw i’n meddwl bod pobol Seisnig yn meddwl bo nhw ddim yn cael yr un croeso achos bo nhw’n clywed pobol yn siarad Cymraeg, a dydyn nhw ddim yn hoffi hynna.

“Ond heb y fisitors, fysan ni’n ddistaw yma.”

Er prysurdeb ymhlith yr ymwelwyr, mae trigolion lleol yn parhau i ymweld â Llanberis, meddai.

“Mae pobol leol yn dal i ddod yma, ond maen nhw’n gallu mynd adra i fwyta, lle mae fisitors yn gwario lot mwy yma,” meddai.

Ychwanega fod llawer o’r ymwelwyr yn meddwl ei bod yn anhygoel bod pobol yn siarad Cymraeg, ac maen nhw’n aml yn dangos diddordeb yn yr iaith, meddai.

Wrth ymateb i honiadau Amy a’i ffrindiau, mae penaethiaid twristiaeth wedi amddiffyn enw da’r ardal, gan bwysleisio ei fod yn “lle croesawgar i bawb”.