Mae Pablo Llorena, barnwr yng Ngoruchaf Lys Sbaen, wedi gofyn i lys yn Barcelona ymchwilio i sut y llwyddodd Carles Puigdemont i adael Catalwnia ar Awst 8.
Mae’r barnwr yn credu bod troseddau wedi’u cyflawni, gydag amheuon fod plismyn wedi helpu’r cyn-arlywydd i ddianc er mwyn cael parhau i fyw’n alltud.
Roedd Puigdemont wedi dychwelyd i Gatalwnia ar gyfer derbyniad, ac mae amheuon nad oedd y plismyn wedi cwblhau eu dyletswyddau mewn modd priodol, gan esgeuluso’u “dyletswydd i erlyn troseddau”.
Yn ôl y barnwr, doedd “dim rhwystrau” yn atal yr heddlu rhag arestio Carles Puigdemont ar y diwrnod dan sylw.
Fe fu Puigdemont yn alltud am saith mlynedd hyd yn hyn, ar ôl gadael y wlad yn dilyn refferendwm annibyniaeth 2017 oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Mae e wedi’i amau o gamddefnyddio arian cyhoeddus er mwyn trefnu’r refferendwm.
Ar ôl iddo fe adael Catalwnia, doedd neb yn gwybod lle’r oedd e am ddeuddydd cyn iddo fe lanio ym Mrwsel, prifddinas Gwlad Belg, lle mae e bellach yn byw.