Mae pedwar o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o ymosod ac o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn dilyn sawl digwyddiad yng ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau ddydd Mercher (Medi 18) ynghylch sawl digwyddiad yn y carchar.

Yn ôl Heddlu’r De, newydd ddechrau mae eu hymchwiliad, ac maen nhw’n cydweithio’n agos â chwmni diogelwch G4S sy’n rhedeg y carchar.

Dynes 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, dyn 45 oed o Bontycymer, dyn 25 oed o Ferthyr Tudful a dyn 35 oed o Lanelli yw’r rhai sydd wedi’u harestio.

‘Brawychus’

Fis Mehefin eleni, fe fu golwg360 yn siarad â mam carcharor yng ngharchar y Parc, ac roedd hi’n dweud bod lefel y trais yno’n “hollol eithafol” a’i bod hi’n poeni am ddiogelwch ei mab.

Cafodd tri o garcharorion eu cludo i’r ysbyty ar Fai 31, yn dilyn digwyddiad yn y carchar lle roedd deg o bobol wedi marw ers mis Chwefror.

Yn ôl cwmni diogelwch G4S, sy’n rheoli’r Parc, roedden nhw’n ymdrin â “dau ddigwyddiad ar wahân” ar y safle ar yr un diwrnod ym mis Mai.

Roedd y cyntaf yn ymwneud â thua ugain o garcharorion, a chafodd ei ddirwyn i ben yn ddiogel gyda chymorth gan y gwasanaeth carchardai, meddai G4S.

Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau wedi’r ail ddigwyddiad.

Yn dilyn y digwyddiadau, fe fu teuluoedd y carcharorion yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gamu i mewn a chymryd rheolaeth dros y carchar.

 

Carchar y Parc: “Mae’n frawychus cael fy mab yno”

Elin Wyn Owen

Cafodd tri o garcharorion eu cludo i’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 31), yn dilyn digwyddiad yn y carchar lle mae deg o bobol wedi marw ers mis Chwefror