Mae cyd-gyflwynydd y podlediad gwleidyddol Hiraeth yn dweud ei fod yn deall pam nad oedd Eluned Morgan eisiau “galw allan” Syr Keir Starmer wrth drafod y cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur San Steffan.

Wrth siarad â golwg360, mae Matthew Hexter wedi bod yn pwyso a mesur wythnos gyntaf Prif Weinidog Cymru yn ôl yn y Senedd ers iddi gael ei hethol i olynu Vaughan Gething.

Ar y rhaglen Y Byd yn ei Le, dywedodd Eluned Morgan na ddylid “gor-ddweud maint fy nylanwad i” ar Keir Starmer.

Pan ofynnwyd iddi pam na fyddai’n galw am ailystyried toriadau Syr Keir Starmer i Daliadau Tanwydd y Gaeaf, ychwanegodd Eluned Morgan y gallai hi “alw ar Donald Trump i wneud pethau hefyd”.

Wrth wneud sylw am ddyfyniadau o’r rhaglen Y Byd yn ei Le, dywed Matthew Hexter nad yw’r hyn ddywedodd Eluned Morgan mor arwyddocaol ag y mae pobol eraill yn ei ddatgan.

Yn eu plith mae Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, oedd wedi gofyn y cwestiwn, ‘Cofio pan ddywedwyd wrthym pa mor wahanol fyddai pethau gyda Llywodraeth Lafur y naill ben a’r llall i’r M4?”

Wrth ymateb, dywed Matthew Hexter ei fod yn “deall” pam nad oedd Eluned Morgan eisiau beirniadu Syr Keir Starmer.

‘Be’ ydan ni’n feddwl efo’r gair dylanwad?’ 

“Be yda ni’n feddwl efo’r gair ‘dylanwad’?” gofynna Matthew Hexter, wrth gyfeirio at sylwadau Eluned Morgan oedd yn awgrymu bod ganddi gymaint o ddylanwad ar Donald Trump ag sydd ganddi ar Syr Keir Starmer.

“Dw i’n deall o bersbectif Eluned pam fod hi ddim eisiau galw allan Keir Starmer ar Y Byd yn ei Le.”

Dywed fod rhaid deall y sefyllfa o safbwynt gwleidyddol, ac nad yw hi’n werth mentro niweidio’r berthynas rhwng y ddwy lywodraeth.

“Nawr, gall Eluned Morgan drafod problemau megis torri’n ôl ar gymorth costau tanwydd efo Keir Starmer… dw i’n siŵr y byddai hi’n gallu.

“Dw i’n siŵr eu bod nhw’n cytuno ar rai pethau, ac yn anghytuno ar bethau eraill.

“Rydym yn gwybod fod yna wahaniaethau ar eu safbwynt tuag at bolisïau rhwng Llafur yn genedlaethol a Llafur Cymru.

“I fi, mae e bron yn angenrheidiol fel rhan o ddatganoli y bydd llywodraethau gwahanol o wahanol wledydd yn gwneud penderfyniadau sy’n wahanol.”

Ychwanega ei fod “yn gobeithio y bydd nawr sianeli ffurfiol rhwng y llywodraethau, lle maen nhw yn gallu cael trafodaethau”.

Mae Keir Starmer yntau wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sefydlu Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau ar gyfer gwledydd a rhanbarthau Prydain.

Er hyn, ychydig iawn o fanylion sydd er mwyn deall sut yn union fydd y cyngor yn gweithredu fel rhan o fecanwaith rhynglywodraethol presennol.

Llywodraethau sydd “eisiau” cydweithio

Yn ôl Matthew Hexter, dydy’r ffaith fod dwy lywodraeth y naill ben i’r llall o’r M4 sydd “eisiau” cydweithio ddim “ond yn gallu bod yn beth da” i Gymru.

“Maen nhw [Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru] yn awyddus iawn i gydweithio yn y meysydd lle mae yna werth i wneud yn union hynny,” meddai.

“Yn y meysydd sydd wedi’u datganoli, dw i’n credu bod cyd-gynhyrchiant o bolisi yn gwneud synnwyr, pan mae e y peth iawn ar gyfer lles yr wlad.

“Mewn iechyd, er enghraifft, mae cymaint o wasanaethau sydd yn draws-ffiniol – yn yr ystyr yna, mae cydweithio yn mynd i fod yn dda i gleifion.”

Ychwanega fod yr un yn wir am feysydd ynni glân, lle mae llawer o’r cyfrifoldebau wedi’u datganoli, ond fod yna lawer sy’n ddibynnol ar feysydd lle mae pwerau wedi’u cadw gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“O gymharu â’r Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, lle doedden nhw ond gallu cydweithio efo Michael Gove yn yr ystafell, dyna be’ sy’n wahanol.”

Eluned Morgan wedi perfformio’n “wych”

Wrth drafod ei sesiwn Cwestiynau i’r Prif Weinidog gyntaf, dywed Matthew Hexter fod perfformiad Eluned Morgan yn “wych”.

“Mae’n dda iawn bod Eluned Morgan yn dweud ei bod hi nawr yn ffocysu ar be’ yn union mae’r Senedd yn gyfrifol drosto.

“Hynny yw, mae yna ond deunaw mis tan yr etholiad Seneddol nesaf, ac mae yna ddealltwriaeth gan Lywodraeth Cymru fod yna swydd angenrheidiol i’w chyflawni dros y cyfnod yna.

“Ar ddiwedd y dydd, dyna yn union mae pobol eisiau gweld gan eu llywodraeth.

“Mae’n hollbwysig fod pobol yn cael y teimlad yma bod eu bywyd nhw yn gwella.”