Bydd Gŵyl Fwyd y Fenni yn cyrraedd y dref y penwythnos hwn (Medi 21 a 22) gyda llu o ddanteithion at ddant pawb.
Bydd chwe lleoliad yn arddangos 190 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a thu hwnt, gan gynnwys arddangosiadau coginio, sgyrsiau, sesiynau coginio dros dân, a gweithgareddau i’r teulu.
Yn Neuadd y Farchnad bydd rhai o gogyddion mwyaf adnabyddus Cymru a’r DU yn arddangos eu doniau gan gynnwys Chris Harrod o fwyty The Whitebrook yn Nhrefynwy (sydd â Seren Michelin); Jonathan Woolway, sydd wedi agor ei fenter newydd The Shed yn Abertawe, a Gwenann Davies, prif gogydd tafarn y Felin Fach Griffin yn Aberhonddu.
Ymhlith y gwesteion eraill mae’r newyddiadurwr a darlledwr Jay Rayner, yr awdur Tom Parker Bowles, yr hanesydd bwyd Carwyn Graves, y gogyddes Nerys Howell, a’r cogydd a’r darlledwr Hugh Fearnley-Whittingstall.
Yn ogystal bydd sgwrs yn Gymraeg gan Llafur Ni, prosiect yng Ngheredigion sy’n gweithio gyda ffermwyr Cymreig eraill i adfer y ceirch du a oedd yn brif ffynhonnell bwyd a phorthiant i ffermwyr ar un adeg.
Mae tocynnau’n costio £16 am ddiwrnod neu £25 am y penwythnos ac mae mynediad am ddim i blant o dan 16 oed os ydyn nhw’n talu gydag oedolyn.
Mae rhagor o fanylion yma.