Mae bron i draean o bobol Cymru o blaid cael gwared ar Senedd a Llywodraeth Cymru, o gymharu â chwarter a fyddai’n cefnogi annibyniaeth i Gymru. Dyma un o brif gasgliadau arolwg barn gan y cwmni YouGov yr wythnos yma, sy’n cyd-ddigwydd ag arolygon tebyg yn yr Alban i nodi deng mlynedd ers y refferendwm ar annibyniaeth yn 2014.

Yno, mae canlyniad arolwg YouGov bron union yr un fath â chanlyniad y refferendwm ei hun, sef 44 y cant o blaid a 56 y cant yn erbyn. Er bod y canrannau wedi amrywio rywfaint dros y blynyddoedd, does dim newid sylfaenol wedi bod, a’r rhagolygon am annibyniaeth i’r wlad yn ddim gwahanol ar ôl blynyddoedd o oruchafiaeth yr SNP.

Yn yr arolwg diweddaraf hwn yng Nghymru, roedd ymatebwyr yn dangos graddau eu cefnogaeth i chwe dewis gwahanol, sef:

  • Senedd a llywodraeth ddatganoledig fel sy’n bod ar hyn o bryd
  • Senedd a llywodraeth ddatganoledig gyda mwy o bwerau
  • Senedd a llywodraeth ddatganoledig gyda llai o bwerau nag ar hyn o bryd
  • Senedd a llywodraeth hunan-lywodraethol o fewn y Deyrnas Unedig, gyda phwerau dros bopeth ond amddiffyn a materion tramor
  • Diddymu Senedd a Llywodraeth Cymru
  • Cymru gwbl annibynnol y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o arolygon, roedd ymatebwyr yn gallu datgan cefnogaeth neu wrthwynebiad i bob un o’r rhain yn hytrach na gorfod dewis un yn unig o’u plith.I’r ddau ddewis cyntaf y mae’r gefnogaeth gryfaf (39 a 40 y cant) a’r trydydd dewis, sef senedd â llai o bwerau, sy’n denu leiaf o gefnogaeth ar 23 y cant.

Byddai bron i draean yn cefnogi’r pedwerydd dewis, sef rhyw fath o led-annibyniaeth, sy’n sylweddol fwy na’r 24% oedd yn cefnogi ‘Cymru gwbl annibynnol’ y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

O blaid annibyniaeth

Mae’r ganran sy’n cefnogi annibyniaeth yn amrywio yn ôl ffactorau fel oed, sut maen nhw wedi pleidleisio yn y gorffennol, a’u gallu i siarad Cymraeg.

Diddorol yw gweld bod 13% o’r rhai bleidleisiodd dros Reform UK yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf yn dweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth i Gymru.

Ar y llaw arall, dim ond 58% o’r rhai bleidleisiodd dros Blaid Cymru sy’n nodi eu cefnogaeth i annibyniaeth, o gymharu â chwarter pleidleiswyr Llafur. Mae’n awgrymu bod Plaid Cymru yn gallu ymestyn eu cefnogaeth y tu hwnt i’r rhai sy’n dymuno gweld Cymru annibynnol, ond ar yr un pryd yn methu â denu cefnogaeth llawer iawn sydd o blaid hynny hefyd. I raddau, mae hyn yn dilyn patrwm tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn yr Alban lle gwelwyd dad-gyplu cynyddol rhwng y gefnogaeth i annibyniaeth a chefnogaeth i’r SNP.

Mae canran fymryn uwch – 62% – o bleidleiswyr Plaid Cymru yn cefnogi hunan-lywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig yn hytrach nag annibyniaeth lwyr, ond mwy fyth (mwy na thri chwarter) yn cefnogi mwy o bwerau o dan y drefn bresennol.

Mae’n amlwg hefyd fod y gallu i siarad Cymraeg yn ffactor allweddol yng ngraddau eu cefnogaeth i Gymru annibynnol. O blith y rhai sy’n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, mae bron eu hanner (48%) yn datgan eu cefnogaeth i annibyniaeth, o gymharu â thraean rhai sy’n gallu siarad Cymraeg, ond ddim yn rhugl, ac 16% o bobol ddi-Gymraeg.

Mae canran sylweddol uwch o blith y grwpiau oedran iau na’r grwpiau oedran hŷn o blaid annibyniaeth, ond lleiafrif ydyn nhw ym mhob grŵp.

O blaid diddymu

I raddau helaeth, mae natur y gefnogaeth i ddiddymu Senedd Cymru yn gwbl groes i’r gefnogaeth i annibynniaeth, ond yma hefyd mae ambell i ganlyniad annisgwyl.

Mae bron i un o bob deg bleidleisiodd dros Blaid Cymru ym mis Gorffennaf yn dweud eu bod o blaid diddymu Senedd a Llywodraeth Cymru. All rhywun ond dyfalu gwir ddaliadau’r bobol hyn. Cyfuniad o bosibl rhwng lleiafrif bach o genedlaetholwyr pybyr na fyddai dim byd llai nag annibyniaeth yn dda i ddim iddyn nhw, a rhai unoliaethwyr Prydeinig allai fod â theyrngarwch personol i rai o wleidyddion Plaid Cymru?

Mae mwyafrif o bleidleiswyr Reform a’r Torïaid o blaid diddymu’r Senedd, er ei fod ychydig yn uwch ymhlith y Torïaid (66%) na phleidleiswyr Reform (61%). Mae hyn yn uwch na’r gyfran o bron i hanner y naill garfan a’r llall sy’n cefnogi lleihau pwerau’r drefn ddatganoledig bresennol.

Gwelwn gysylltiad clir hefyd rhwng diddymwyr y Senedd a chefnogwyr Brexit, gan danlinellu’r graddau roedd Brexit yn cael ei yrru gan genedlaetholdeb Seisnig neu Eingl-Brydeinig. Roedd dros hanner y rhai a bleidleisiodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016 o blaid diddymu’r Senedd, o gymharu â llai na 20 y cant y rhai a bleidleisiodd dros aros.

Yn wahanol i’r agweddau at annibyniaeth, ymhlith y grwpiau oedran dros 50 oed mae’r gefnogaeth fwyaf i ddiddymu’r Senedd, er nad oes mwyafrif ymhlith y rhain chwaith. Mae lleiafrif sylweddol o 37% o bobol ddi-Gymraeg dros ddiddymu’r Senedd, sydd dipyn yn uwch na’r 17% ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl a 21% o’r rhai sy’n siarad Cymraeg ond heb fod yn rhugl.

Prif gasgliadau

Mae’n wir na ddylid rhoi gormod o bwyslais ar ganlyniadau’r arolwg hwn, fwy nag ar unrhyw arolwg arall sy’n ymwneud â phynciau cyfansoddiadol o’r fath. Mae natur ei gwestiynau hefyd yn golygu ei bod yn anodd gwneud cymariaethau uniongyrchol ag arolygon blaenorol.

Ar y llaw arall, mae rhai o’r prif negeseuon gaiff eu hamlygu ynddo yn haeddu sylw.

I ddechrau, mae’n awgrymu ffafriaeth gyffredinol i’r drefn bresennol ond cefnogaeth sylweddol hefyd i fwy o bwerau.

Mae hyn yn awgrymu’n glir mai trwy gynyddu’r pwerau presennol fesul tipyn mae’r unig obaith am fwy o annibyniaeth i Gymru. Fel y gwelwyd yn yr Alban, dydi gweiddi’n barhaus am refferendwm ar annibyniaeth ddim wedi galluogi’r SNP i ennill dim mwy o bwerau i’w gwlad.

Yn sicr, mae graddau’r gefnogaeth sydd yn yr arolwg i ddiddymu Senedd a Llywodraeth Cymru yn rhybudd na ellir ei anwybyddu. Mae’r canrannau hyn gyda’r uchaf mewn unrhyw arolygon ers cychwyn datganoli; maen nhw hefyd yn debygol o fod yn anogaeth i’r lleisiau hynny o fewn y Torïaid sy’n awyddus i weld eu plaid yn ymladd etholiad ar sail polisi o’r fath. Mae’r un peth yn wir am Reform hefyd, er y gallai eu rhagolygon i ddefnyddio Senedd Cymru fel llwyfan fod yn rhywfaint o symbyliad iddyn nhw feddwl dwywaith.

Cyfrifoldeb

Y casgliad cyffredinol mae modd ei ffurfio o’r arolwg yw bod Senedd a Llywodraeth Cymru wedi ennill eu plwyf ond heb wneud hynny i’r fath raddau y gallan nhw gymryd cefnogaeth y cyhoedd yn ganiataol.

Mae hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar gefnogwyr datganoli o bob plaid i sicrhau polisïau a threfniadau etholiadol fyddai’n helpu i ddyrchafu enw da Senedd Cymru.

Yn anffodus, gallwn ni fod yn sicr na fydd ethol aelodau nesaf y Senedd yn 2026 ar sail rhestrau caeëdig yn cyfrannu dim at hynny. Mae cynyddu nifer yr aelodau i 96 am fod yn ddigon amhoblogaidd ynddo’i hun, ond bydd y drefn o’u hethol yn gwneud pethau’n llawer gwaeth. Yn lle cael pleidleisio dros unigolion allai fod wedi eu hysbrydoli, bydd etholwyr yn gorfod dewis rhwng pleidiau, a’r rheini’n bleidiau digon blinedig a di-fflach ar y cyfan. Gallwn fod yn sicr y bydd Aelodau Seneddol San Steffan yn clochdar eu bod nhw wedi cael eu hethol yn uniongyrchol gan yr etholwyr, pan na fydd aelodau Senedd Cymru ond wedi gorfod dweud pethau sy’n plesio aelodau eu pleidiau er mwyn cael eu dewis.

Mae perygl gwirioneddol o dan drefn o’r fath mai pobol â theyrngarwch dall i’w pleidiau fydd mwyafrif gwleidyddion y Senedd, heb ddim lle i annibyniaeth barn.

Gohirio bil dadleuol

O leiaf, mae’n ymddangos bod gan y Prif Weinidog y synnwyr cyffredin i ohirio cyflwyno un o’r elfennau mwyaf dadleuol o’r ‘diwygiadau’ etholiadol hyn.

Ddydd Mawrth (Medi 24), bydd cynnig gan y Llywodraeth i dynnu’n ôl y bil fyddai’n gorfodi pleidiau gwleidyddol i fficsio’u prosesau dewis ymgeiswyr mewn modd fyddai’n sicrhau mai merched fyddai o leiaf hanner y rheini fyddai’n cael eu hethol.

Bydd hyn yn digwydd ar ôl i’r Llywydd Elin Jones fynegi amheuon na fyddai gan y Senedd y pwerau i gyflwyno deddf o’r fath p’run bynnag. Yn ogystal, byddai dylanwad gormodol eithafwyr trawsrywiaeth yn sicr o arwain at anghytundeb a ffraeo diddiwedd ynghylch diffiniad cyfreithiol o bwy sy’n ferched neu beidio.

Os ydi pleidiau unigol yn dewis dilyn trefn fyddai’n sicrhau y byddai eu hymgeiswyr buddugol union hanner a hanner yn ddynion a merched, mae hynny’n ddigon teg. Gallwn fod yn sicr y bydd Plaid Cymru a Llafur yn debygol o ddewis dilyn trywydd o’r fath, a does dim o’i le yn hynny.

Ar y llaw arall, byddai deddf i orfodi pob plaid i wneud yr un fath yn wirion bost ac yn gwbl annerbyniol. Nid lle’r wladwriaeth ydi dweud wrth bleidiau gwleidyddol sut i ddewis ymgeiswyr.

Dylai aelodau o bob plaid fanteisio ar y cyfle i daflu’r bil hwn i’r bin sbwriel deddfwriaethol ddydd Mawrth, a chanolbwyntio’u hymdrechion ar ffyrdd o ddyrchafu, yn hytrach na thanseilio hygrededd Senedd Cymru.