Mae Arlywydd Catalwnia’n dweud ei fod e’n “argyhoeddedig” fod Senedd Ewrop yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau’r defnydd o’r Gatalaneg yn y siambr.

Mae Salvador Illa wedi cyfarfod â Roberta Metsola yn ystod ymweliad â Brwsel, ac mae’n dweud bod “dadansoddiad cadarn a difrifol” ar y gweill.

“Dw i’n gadael yn argyhoeddedig,” meddai.

“Dw i wedi gweld eu bod nhw eisiau mynd i’r afael â’r mater o ddifrif.

“Mae gweithgor penodol wedi’i sefydlu, ac mae yna ewyllys i fynd i’r afael â’r mater yn llawn.”

Ond dywed Salvador Illa fod gwireddu’r defnydd o’r Gatalaneg yn Senedd Ewrop yn broses fydd “yn cymryd amser”.

Ychwanega fod gan Roberta Metsola “agwedd ddifrifol a pharchus iawn” tuag at y mater, a bwriad i fynd i’r afael â’r alwad “mewn manylder”.

Carles Puigdemont

Yn y cyfamser, dywed Salvador Illa y bydd yn cyfarfod â Carles Puigdemont, cyn-Arlywydd Catalwnia, “pan ddaw’r amser”.

Mae Illa dan y lach gan Junts per Catalunya am beidio cytuno i gynnal cyfarfod ym Mrwsel.

Ond dywed fod ganddo fe’r “parch mwyaf” at un o’i ragflaenwyr, ac y byddai “wedi hoffi” cynnal cyfarfod yn ystod ei ymweliad.

Daw ei sylwadau wrth iddo fe alw ar y farnwriaeth i weithredu’r amnest ar gyfer y rhai fu ynghlwm wrth yr ymgyrch dros annibyniaeth.

Mae Puigdemont wedi beirniadu Illa am gyfarfod â chyn-arlywyddion eraill er nad yw e wedi cyfarfod ag e eto, ac mae’n dweud ei fod yn amharod i gynnal cyfarfod oherwydd ei “wrthwynebiad i weithredu’r amnest”.

Yn ystod ei ymweliad, mae disgwyl i Illa gyfarfod ag arweinwyr Navarre a Gwlad y Basg.