“Dylai pawb gael yr hawl i ddewis talu gydag arian parod” – dyna neges ymgyrch sydd ar droed yn ardal Caerwys, Sir y Fflint.

Sylfaenydd yr ymgyrch ydy’r bensiynwraig Jenny Goldsmith sy’n byw yng Nghaerwys.

Dechreuodd hi’r ymgyrch ar ôl cael trafferth talu am docyn mewn maes parcio yn y Fflint, eglura.

“Nôl ym mis Ionawr, ro’n i’n dychwelyd ar ôl taith i Lundain ac wedi darganfod fy mod wedi cael dirwy am barcio yng ngorsaf drên y Fflint. Doedd y peiriant talu yn y maes parcio ddim yn gweithio ac felly ddim yn derbyn cardiau banc, a doedd dim modd talu gydag arian parod. O ganlyniad, roeddwn i wedi methu prynu tocyn parcio. Bu’n rhaid i fi dalu’r ddirwy a chost y tocyn parcio – ro’n i’n gynddeiriog,” meddai Jenny Goldsmith.

Daeth â’r mater i sylw Sefydliad y Merched yng Nghaerwys lle mae hi’n aelod ac, yn dilyn pleidlais, fe wnaeth yr aelodau benderfynu cyflwyno cynnig gerbron Sefydliad y Merched yn genedlaethol, yn galw am yr hawl i ddewis defnyddio arian parod.

Ychwanegodd Jenny Goldsmith: “Dydy hyn ddim yn rhywbeth sy’n effeithio’r genhedlaeth hŷn yn unig – mae’n effeithio pobl gydag anableddau dysgu a phobl sydd heb gyfrif banc neu ffôn clyfar. Mae’n eithrio llawer o bobl mewn cymdeithas. Mae miloedd o bobl yn teimlo’n flin ac yn rhwystredig am hyn a dylai pawb gael yr hawl i ddewis sut maen nhw’n talu am nwyddau neu wasanaethau mewn siopau a busnesau. Rydan ni eisiau sicrhau bod pobl dal yn gallu talu gydag arian parod os mai dyna maen nhw eisiau ei wneud.”

Ymgyrch

Mae’r ymgyrch bellach wedi cael cefnogaeth y Payment Choice Alliance a gafodd ei sefydlu gan y cadeirydd Ron Delnevo yn 2014.  Roedd hyn mewn ymateb i gyhoeddiad Maer Llundain ar y pryd, Boris Johnson, y byddai bysus yn y ddinas yn newid i rai oedd ddim yn derbyn arian parod.

Dechreuodd nifer o fusnesau fabwysiadu system talu heb arian parod yn fuan wedyn gyda llawer mwy yn dilyn yn ystod y pandemig Covid-19. Erbyn hyn mae nifer fawr o siopau, tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden a meysydd parcio yn gwrthod derbyn arian parod.

Mae’r Payment Choice Alliance, a gafodd ei hail-lansio yn 2023, wedi dechrau ymgyrch i geisio pasio deddf erbyn diwedd 2025 a fyddai’n sicrhau bod gan y cyhoedd hawl gyfreithiol i ddewis talu un ai gydag arian parod neu gerdyn.

‘Cyfle i leisio barn’

“Wrth siarad efo nifer o bobl eraill mae’n amlwg bod y mwyafrif ddim eisiau byw mewn cymdeithas heb arian parod. Rydan ni’n bwriadu lobio Aelodau Seneddol yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl yn ystod y dyddiau nesaf,” meddai Jenny Goldsmith.

Yn y cyfamser mae Ron Delnevo o Payment Choice Alliance wedi derbyn gwahoddiad i ddod i annerch ymgyrchwyr yng Nghaerwys nos Iau, 26 Medi.

“Mae’r cyfarfod yn agored i bawb ac mae’n gyfle i bobl leisio eu barn ar y mater. Gyda’n gilydd, dw i’n gobeithio y gallwn ni sicrhau bod arian parod yn parhau’n ddewis i bawb ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Jenny Goldsmith.

Bydd y cyfarfod yn Neuadd y Dref Caerwys, Sir y Fflint, nos Iau, 26 Medi am 7yh. Mynediad am ddim.