Mae amheuaeth, o ryw fath, yn gydymaith cyson i ffydd. Credaf fod lle i amau’r Cristion nad yw weithiau’n amau!

Bu Iesu’n garedig wrth yr amheuwr ymhlith y deuddeg dethol, a hynny oherwydd nad ‘Amheuwr’ mohono i Iesu, ond Tomos. Gwraidd ymwneud Iesu â phawb oedd gweld tu hwnt i’r labeli hyll; buasai’n dda pe bai ei bobol, o ddifrif, yn ceisio’i efelychu yn hynny.

Ni fu, ac nid yw’r Eglwys yn garedig o gwbl i’r Amheuwr. Caiff e neu hi eu cyhuddo o fod heb ddigon o ffydd; dyna’r unig esboniad am yr anallu i gredu hyn, llall ac arall.

Wedi clywed hyn, trodd rhai ‘Amheuwyr’ am y drws ar unwaith a gadael, byth eto i ddychwelyd. Mynnodd eraill wedyn gael aros, aros a cheisio credu – credu sut a beth roedd ‘pawb’ arall yn credu, a darganfod sawl dull a modd i fodoli mewn ffydd – ie, dim ond bodoli. Bodoli? Bodloni ar yr arwynebol, ansylweddol bethau gan beidio dod i nabod ein Duw, ein hunain na’n gilydd mewn gwirionedd: dyna beth yw bodoli. Gallwn fyw oes ohono. Mae’r ‘Amheuwr’ yn gadael ar unwaith neu’n aros o’u dewis, am byth, mewn carchar o fath. Onid oes ffordd arall, iachach?

Felly, pan fo amheuaeth yn gwasgu, cofiwch, os gwelwch yn dda, fod gwahaniaeth rhwng CREDO a FFYDD. Peth ymenyddol yw CREDO – athrawiaeth ac athroniaeth; diwinyddiaeth a diwinydda. Ni ddylid dilorni CREDO byth, ond pan fo amheuaeth yn cydio’n dynn ynom, nid digon CREDO. Pan fo amheuaeth yn cael gafael arnom, rhaid i ninnau gael cydio’n dynn mewn FFYDD. Pam? Peth ymarferol yw FFYDD. Gwraidd a gwaelod FFYDD yw ymwneud â phobol Dduw er gogoniant i Dduw. Occupational Theory yw CREDO, Occupational Therapy yw FFYDD. Yr ateb i amheuaeth yw gosod ein FFYDD ar waith: sefyll ysgwydd yn ysgwydd â phobol ffydd, cydweithio mewn ffydd.

Pan fo amheuaeth yn cydio’n dynn ynoch, cofiwch dri pheth. Cofiwch: Nodwydd ac Edau. FFYDD yw’r nodwydd, CREDO yw’r edau. Lle bynnag mae FFYDD yn mynd, mae CREDO yn dilyn, ac nid fel arall!

A chaiff y peth olaf i’w gofio ei grisialu mewn cwpled sydd yn galondid cyson i mi:

Er breued ydyw edau

Â’n ddur ar ôl pwyth neu ddau.

(Meirion Hughes)