Mae mam carcharor yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-Bont ar Ogwr yn dweud bod lefel y trais yn y carchar yn “hollol eithafol”, a’i bod yn poeni am ddiogelwch ei mab yno.

Cafodd tri o garcharorion eu cludo i’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 31), yn dilyn digwyddiad yn y carchar lle mae deg o bobol wedi marw ers mis Chwefror.

Yn ôl cwmni diogelwch G4S, sy’n rheoli Carchar y Parc, roedden nhw’n ymdrin â “dau ddigwyddiad ar wahân” ar y safle ddydd Gwener.

Roedd y cyntaf yn ymwneud â thua ugain o garcharorion, a chafodd ei ddirwyn i ben yn ddiogel gyda chymorth gan y gwasanaeth carchardai, meddai G4S.

Cafodd tri o bobl eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywydau wedi’r ail ddigwyddiad.

Ers Chwefror 27, mae deg carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc – bu farw’r diweddaraf, Warren Manners, ddydd Mercher (Mai 29).

Mae teuluoedd y carcharorion bellach yn galw ar y llywodraeth i gamu i mewn a chymryd rheolaeth dros y carchar.

‘Mae lefel y trais yn y carchar yn hollol eithafol’

Clywodd Annmarie Alders o Gaerdydd am y digwyddiad dros y penwythnos, wedi i’w ffrind yrru neges oddi ar y cyfryngau cymdeithasol ati.

Roedd y neges yn esbonio bod digwyddiad ar droed yn y carchar, yn yr adain lle mae ei mab, Callum Watts, sy’n 26 oed, yn cael ei gadw ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddosbarthu cyffuriau.

Ffoniodd Annmarie Alders y carchar sawl gwaith, ond doedd hi’n methu cael ateb, ac ar ôl ffonio’r ysbytai lleol, cafodd hi wybod ar gam fod ei mab wedi’i anafu yn y digwyddiad ac yn yr ysbyty.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ar ôl mynd i’r ysbyty, cafodd hi wybod nad ei mab hi oedd wedi’i anafu wedi’r cyfan, a bod yr ysbyty wedi gwneud camgymeriad.

Cafodd ei mab ei symud i Garchar y Parc o Garchar y Berwyn yn Wrecsam tua deufis a hanner yn ôl, ac mae hi’n poeni am ei ddiogelwch yno.

“Mae’n frawychus cael fy mab yno [yng Ngharchar y Parc],” meddai wrth golwg360.

“Mae’r pethau mae e’n eu disgrifio sy’n mynd ymlaen yno – swyddogion yn cymryd cyffuriau, pobol yn marw – yn frawychus.

“Roedd ganddo fe broblemau cyffuriau ar y tu allan, felly mae e wedi addo i mi nad ydy e wedi cymryd unrhyw beth i mewn yno, ond dw i’n poeni nad ydy e’n derbyn y feddyginiaeth mae e i fod i’w dderbyn, ac y gallai droi at gyffuriau i hunanfeddyginiaethu.

“Mae’n dweud bod lefel y trais yn y carchar yn hollol eithafol, ac mae’r swyddogion yn edrych i ffwrdd.

“Mae pobol yn hunan-niweidio a does gan y swyddogion ddim diddordeb.

“Does yna ddim digon o fwyd y rhan fwyaf o’r amser, sy’n fy mhoeni i, felly dw i’n anfon arian i fy mab yn wythnosol ar hyn o bryd, fel ei fod e’n gallu prynu bwyd ychwanegol yno.

“Dw i’n poeni am ei ddiogelwch, achos dydy’r swyddogion ddim yn gwneud eu gwaith – dydyn nhw ddim yn cadw pawb yn ddiogel.”

‘Syfrdanol’ gweld y newid yn y carchar

Un arall sy’n poeni am aelod o’r teulu yn y carchar yw Leo Deacon o Abertyleri, sydd â brawd yn garcharor yno.

“Wnaethon ni ddim clywed llawer ddydd Gwener, ac roedd e’n shocking na chafodd y teuluoedd wybod y gwir o’r cychwyn,” meddai wrth golwg360.

“Wnaeth e ddim dweud llawer am beth ddigwyddodd ddydd Gwener, dim ond bod yna derfysgoedd wedi bod, a’u bod nhw wedi’u cloi fyny dros y penwythnos.

“Ro’n i jest yn gallu clywed gweiddi a sŵn taro yn y cefndir – dydy hynny ddim yn anghyffredin, ond dw i heb glywed synau fel yna yn y cefndir ers amser hir.

“Dw i’n poeni amdano.

“Doedd e ddim yn rhan o beth ddigwyddodd, diolch i Dduw, ond mae’n bryderus.

“Mae’r holl deuluoedd ar y tu allan wedi teimlo’n ofidus a phryderus.

“Dw i’n methu dychmygu sut beth yw e i fod yn y Parc ar hyn o bryd.”

Mae Leo Deacon wedi treulio tri chyfnod yng Ngharchar y Parc, a bu yno tua 2021 ddiwethaf.

Mae’n dweud ei fod yn “syfrdanol” gweld y newid yn y carchar, gan iddo fe deimlo’i fod e wedi derbyn triniaeth dda yn ystod ei amser yn garcharor yno.

“Ro’n i yn yr adran ar gyfer troseddwyr ifainc yn ôl yn 2018, ac yna dw i wedi bod yno ddwywaith fel oedolyn, ar floc Charlie ar gyfer pobol gydag anghenion dysgu neu iechyd meddwl,” meddai.

“Pan dw i wedi bod yno, mae’r Parc wedi bod yn dda iawn i fi.

“Felly dw i wedi fy syfrdanu ac mewn sioc o weld beth sy’n digwydd yno ar y funud.

“Dw i wedi fy synnu o weld pa mor ddrwg mae hi wedi mynd yno mewn cyfnod mor fyr o amser.

“Ces i gefnogaeth gyda fy iechyd meddwl yno wastad, ond dw i’n gwybod nad ydy pawb wedi bod mor lwcus.”

Galw ar y llywodraeth i gymryd rheolaeth

Cynhaliodd teuluoedd carcharorion brotestiadau y tu allan i’r carchar yr wythnos ddiwethaf, gan fynnu atebion ynghylch y marwolaethau diweddar.

Mae’r teuluoedd bellach yn galw ar y llywodraeth i gymryd rheolaeth o’r sefyllfa, a dod â chytundeb G4S gyda’r carchar i ben.

Mae deiseb yn gwneud yr alwad honno wedi’i llofnodi gan fwy na 850 o bobol hyd yn hyn.

“Byswn i’n hoffi gweld y llywodraeth yn mynd i mewn ac yn cymryd drosodd,” meddai Annmarie Alders.

“Mae angen arolygiad dirybudd enfawr ar y carchar, ac mae angen i Garchar y Parc ddechrau bod yn onest gyda phobol am y problemau yno.”

Ymateb

“Fe wnaeth staff yng Ngharchar y Parc ddatrys dau ddigwyddiad byrhoedlog yn gyflym yn ymwneud â charcharorion ddydd Gwener, ac ni chafodd unrhyw swyddogion eu hanafu,” meddai G4S wrth ymateb.

“Bydd y rhai dan sylw yn derbyn y cosbau cryfaf posib, gan gynnwys erlyniad troseddol.”

  • Diweddariad: Ers cyhoeddi’r stori hon, daeth cadarnhad fod Heather Whitehead, Cyfarwyddwr y carchar ers mis Awst y llynedd, wedi ymddiswyddo. Dywed G4S, sy’n rhedeg y carchar, nad un digwyddiad penodol sydd wedi arwain at ei hymadawiad.
Mynedfa'r carchar

Carchar gwaetha’ gwledydd Prydain

Deg o garcharorion wedi marw o fewn tri mis… Aelod o staff wedi cyfaddef smyglo cyffuriau… adroddiadau bod ugain o ddynion wedi cychwyn reiat