Mae’r gefnogaeth i Donald Trump wedi cynyddu ers iddo gael ei ganfod yn euog o 34 cyhuddiad yr wythnos ddiwethaf, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol Maxine Hughes.

Donald Trump ydy’r cyn-Arlywydd cyntaf yn yr Unol Daleithiau i gael ei ganfod yn euog o droseddau ffederal, wedi i reithgor yn Efrog Newydd ei ganfod yn euog o ddylanwadu ar etholiad 2016 mewn ffordd anghyfreithlon.

Daeth y rheithgor i’r casgliad ei fod e wedi talu swm o arian i actores bornograffi, sy’n dweud bod y ddau wedi cael rhyw, i geisio’i thawelu.

Mae gan Donald Trump yr hawl o hyd i sefyll fel ymgeisydd Gweriniaethol yn yr etholiad arlywyddol eleni, er y bydd yn cael ei ddedfrydu ar Orffennaf 11.

Er y gallai’r holl gyhuddiadau arwain at gyfnod o garchar, mae’n fwy tebygol y bydd yn cael ei gadw’n gaeth i’w gartref, medd Maxine Hughes, sy’n newyddiadurwraig yn yr Unol Daleithiau.

‘Helpu Donald Trump’

Roedd y Democratiaid wedi bod yn gobeithio y byddai’n cael ei ganfod yn euog, ac y byddai hynny’n cynyddu’r tebygolrwydd o roi terfyn ar yrfa wleidyddol Donald Trump, eglura Maxine Hughes.

Ond dywed fod hynny’n annhebygol, mewn gwirionedd.

“Os fysa rhaid i ni ddyfalu am y dylanwad mae’r newyddion yma’n mynd i’w gael ar yr etholiad, fyswn i’n dweud bod o efallai yn mynd i gael y canlyniad doedd y Democratiaid ddim eisiau,” meddai wrth golwg360.

“Ers y dyfarniad, rydyn ni wedi gweld cefnogaeth Donald Trump yn tyfu.

“Mae’r polau i gyd yn dangos bod Donald Trump wedi ennill pwyntiau ers wythnos diwethaf, mae tîm ymgyrchu Donald Trump wedi cael diwrnod mwyaf llwyddiannus o ran codi arian i’r ymgyrch…

“Ar hyn o bryd, yr unig beth sy’n amlwg ydy’r ffaith bod y newyddion yn edrych fel ei fod wedi helpu Donald Trump.

“Mae llawer iawn o arbenigwyr yn meddwl mai efallai be’ fydd o’n ei gael fydd ei arestio yn ei dŷ, sydd dal yn anodd iddo fo o ran ymgyrchu.

“Yn amlwg, mae o’n gallu gwneud pethau o’r tŷ – mae o’n gallu defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol – ond os fysa hwnna’n digwydd dw i’n meddwl y bydd o’n defnyddio hynna i ysgogi ei gefnogwyr.

“Mae o wedi dechrau’n syth yn galw ei hun yn ‘garcharor gwleidyddol’, a fydd y ddelwedd yna o Donald Trump ddim yn cael gadael ei dŷ neu yn mynd i garchar yn chwarae mewn i hynna.”

Maxine Hughes

Mae Donald Trump yn wynebu tri achos llys troseddol arall – un yn ymwneud â’r terfysg yn y Capitol ac etholiad 2020, un arall am yr etholiad yn Georgia yn 2020, a’r llall yn edrych ar a wnaeth Trump fynd â dogfennau o’r Tŷ Gwyn pan adawodd ei rôl n Arlywydd.

Ar ben hynny, mae nifer o achosion sifil yn ei erbyn hefyd.

“Rydyn ni wedi gweld yn barod, does yna ddim byd sy’n mynd i newid meddyliau cefnogwyr Donald Trump,” meddai Maxine Hughes.

“Her enfawr” Joe Biden

Fis Tachwedd, bydd Americanwyr yn pleidleisio eto dros Joe Biden neu Donald Trump, mae’n debyg.

Etholiad Joe Biden ydy hi i’w cholli, medd Maxine Hughes.

Mae’r bwlch rhyngddyn nhw’n fach iawn, ac mae arolygon barn yn y dyddiau diwethaf yn awgrymu mai un neu ddau bwynt canran sydd rhyngddyn nhw.

“Mae’n mynd i fod yn her enfawr i Joe Biden oherwydd bod Joe Biden yn colli cefnogaeth gyda phobol ifanc yn enwedig oherwydd sut mae wedi bihafio o gwmpas y sefyllfa yn Gaza a’r gefnogaeth mae o wedi’i roi i Netanyahu ac Israel,” meddai.

“Mae Donald Trump yn stori gyda chymaint o hysteria; beth bynnag mae o’n ei wneud, mae pobol yn cymryd sylw.

“Mae pobol yn caru casáu Donald Trump, mae pobol yn caru caru Donald Trump.

“Ar hyn o bryd, dw i’n meddwl bod o’n bosib iawn pan rydyn ni’n cyrraedd mis Tachwedd ac mae’r Americanwyr yn mynd i bleidleisio, fod Joe Biden yn mynd i golli.”

Joe Biden

‘Dim ennill’

Ers y dechrau, mae Donald Trump wedi bod yn honni bod canlyniadau’r achosion llys, fel yr etholiad diwethaf yn 2020, wedi cael eu “trefnu”, ac mae honno’n rhethreg mae llawer ar yr asgell dde eithafol eisiau ei chlywed, yn ôl Maxine Hughes.

“Os mae Donald Trump yn ennill, ac os mae’n mynd i wneud y pethau mae wedi sôn am, trio newid y system i allu rhedeg am bedair blynedd ychwanegol, trio rheoli pethau mewn ffordd nad ydyn ni wedi’i weld o’r blaen… be ydych chi’n gweld ydy risg o America’n symud o ddemocratiaeth i awtocratiaeth,” meddai.

“Mae yna bobol sy’n teimlo’n nerfus iawn am y pethau mae o wedi bod yn eu dweud a’r ffordd mae pethau’n mynd yn y wlad yma.”

Y Capitol ar Ionawr 6 2021, pan wnaeth cefnogwyr Donald Trump derfysgu

Awtocratiaeth

Awtocratiaeth yw gwladwriaeth sy’n cael ei rheoli gan un person sydd â grym llwyr, fel yr Undeb Sofietaidd dan Stalin, yr Almaen dan Hitler a’r Eidal yn Mussolini.

“Os mae Donald Trump yn ennill, dw i’n meddwl bod gwir deimlad bod yna ryw fath o awtocratiaeth am ddechrau,” meddai Maxine Hughes.

“Os mae Joe Biden yn ennill, mae yna risg bod cefnogwyr Donald Trump am ei alw fo’n ‘rigged election‘, a phobol ar y stryd.

“Does dim ennill.

“Mae pawb yma’n anhapus iawn gyda’r dewis sydd gyda nhw ym mis Tachwedd.

“Rydyn ni wedi clywed dros y blynyddoedd diwethaf sut mae pobol yn meddwl bod yna risg o ryfel sifil, ac mae’r risg yna efallai yn fwy nag erioed rŵan.

“Rydyn ni wedi gweld yn barod beth sy’n gallu digwydd yn fan hyn, gyda’r ymosodiad ar y Capitol ar Ionawr 6, 2021.

“Mae gen i ofn, fel person sy’n byw yma ac yn magu plant yma, beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl mis Tachwedd.”

‘System wedi torri’

Ychwanega Maxine Hughes fod y system wleidyddol yn yr Unol Daleithiau “wedi torri”, a bod system ddwybleidiol yn arwain at ychydig iawn o ddewis.

“Mae pobol yn edrych ar America fel y superpower, y democratiaeth fawr yma, ond rydyn ni’n gweld sefyllfa debyg yn America i India,” meddai.

Mae etholiad mwyaf y byd wedi cael ei gynnal yn India dros y chwe wythnos ddiwethaf, ac er bod y Prif Weinidog Narendra Modi yn debygol o ennill trydydd tymor yn y swydd, mae patrymau cynnar yn awgrymu na fydd ei fuddugoliaeth mor fawr â’r disgwyl.

Ers i blaid genedlaetholgar Narendra Modi, Bharatiya Janata Party, ddod i rym 2014, mae trais yn erbyn Mwslemiaid wedi dod yn fwy cyffredin.

“Mewn ffordd, rydyn ni wedi gweld hynna yn America hefyd,” meddai Maxine Hughes.

“Mae Donald Trump wedi defnyddio hil, crefydd….

“Mae yna risg bod Democratiaeth yn mynd i newid a thorri lawr.”