Mae Plaid Cymru’n galw am wladoli gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.

Daw’r alwad ar ôl i weithwyr sy’n aelodau o undeb GMB gyhoeddi rhagor o streiciau yn erbyn cynlluniau i dorri miloedd o swyddi wrth geisio creu ynni gwyrddach.

Yn ôl GMB, roedd 72% o’u haelodau o blaid streicio ac mae aelodau o Uno’r Undeb am weithio i’w cytundebau a dim byd pellach, ac am wahardd gweithio dros eu horiau ar Fehefin 18.

Daw’r camau hyn yn sgil cynlluniau i gau dwy ffwrnais chwyth, fydd yn golygu colli 2,800 o swyddi.

Mae Tata wedi mynegi eu “siom” ynghylch penderfyniad y gweithwyr, gan rybuddio eu bod nhw’n barod i dynnu’r cynnig o becyn diswyddo yn ôl.

‘Sector yn hanfodol i economi Cymru’

“Mae Plaid Cymru’n cydsefyll â’n gweithwyr dur,” meddai Luke Fletcher, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi.

“Mae’r sector yn hanfodol ar gyfer dyfodol economi Cymru.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n dangos bod gweithwyr wedi uno wrth frwydro yn erbyn y cynigion gan Tata.

“Mae angen i’r Torïaid a Llafur gefnogi’r gweithwyr ac amlinellu gweledigaeth o ran sut allai dyfodol dur yng Nghymru edrych.

“Mae angen i ni gynnal y gallu i gynhyrchu dur craidd yng Nghymru.

“Dylai pwy bynnag fydd yn rhedeg Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y mis nesaf geisio gwladoli gweithfeydd dur Port Talbot.

“Os na fydd hyn yn llwyddo, dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r opsiynau ar gyfer pryniant gorfodol o’r safle, tra bod opsiynau at y dyfodol ar gyfer cynhyrchu dur gwyrdd, gan gynnwys disodli glo â hydrogen gwyrdd, yn cael eu datblygu.”