Mae Plaid Cymru’n “anghytuno’n sylfaenol” â bwriad Nigel Farage o anelu am “fudo sero net”, yn ôl arweinydd y Blaid yn San Steffan.
Cyhoeddodd Nigel Farage ddoe (dydd Llun, Mehefin 3) ei fod wedi cymryd awenau plaid Reform UK, a’i fod am sefyll yn etholaeth Clacton yn Essex yn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Erbyn heddiw, roedd o wedi creu stŵr ynglŷn â’i bolisïau mewnfudo.
Wrth siarad ar raglen Today BBC Radio 4, dywedodd mai “mudo sero net fyddai’r targed”, gan gydnabod fod y ffigwr hwn yn dibynnu ar nifer y bobol sy’n gadael y wlad bob blwyddyn.
Wrth gael ei holi a allai pobol sy’n gymwys i gael fisâu gweithwyr medrus, gan gynnwys parafeddygon ac athrawon ysgolion cynradd, barhau i ddod i mewn, dywedodd y gallen nhw ond mewn niferoedd cyfyngedig yn unig.
‘Gwenwyn’
Un sydd yn gwrthod ei bolisi yn gyfangwbl yw Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“O’r hyn dw i’n ei ddeall am ei wleidyddiaeth o a’i ragfarnau, dw i’n anghytuno’n sylfaenol, ac mae Plaid Cymru – dw i’n falch o ddweud – yn anghytuno’n sylfaenol gyda fo,” meddai wrth golwg360.
“Rydan ni’n arddel fod Cymru yn genedl loches, ac i ni mae o’n bwysig ein bod ni’n derbyn ffoaduriaid pan fydd gyda nhw’r hawl i fod yma yn ôl cyfraith ryngwladol.
“Mae o’n bwysig gyda ni fod Cymru yn chwarae ei rhan gyda chydymffurfio gyda’r gyfraith ryngwladol.
“Mae Nigel Farage wedi sôn fod angen i’r Deyrnas Unedig adael yr ICHR (Independent Commission For Human Rights), sy’n golygu ei fod o am ddifetha enw da’r Deyrnas Gyfunol mwy byth nag y mae o wedi’i wneud hyd yn hyn.
“I ni yng Nghymru, dw i’n gweld y cyfraniad mae mewnfudwyr wedi’i wneud i’n gwlad ni.
“Dw i’n gweld ysbyty fel Tywyn, lle dydyn ni methu ailagor ward cleifion mewnol lle rydan ni wedi cael dwy nyrs o India.
“Dw i, wrth gwrs, eisiau hyfforddi mwy o bobol i fod yn nyrsys a meddygon a gofalwyr yn fan hyn.
“Dw i hefyd eisiau i ni gael ward sy’n agored cyn gynted â phosib, a sicrhau bod gennym y gofalwyr sydd eu hangen ar bobol i fyw’n ddiogel adref rŵan hyn.
“Dw i’n gresynu bod rhywun fel Nigel Farage yn dweud bod pobol fregus sydd angen gofalwyr rŵan yn gallu gwneud hebddyn nhw.
“Rhwng y gwenwyn mae o wedi’i chwistrellu i’n bywyd cyhoeddus ni a’i wleidyddiaeth o gasineb, dw i’n bryderus iawn am ei weld o’n dychwelyd i’r bywyd cyhoeddus.”
‘Dw i’n dal Nigel Farage i gyfrif’
Mae Nigel Farage, cyn-arweinydd UKIP, wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll yn sedd Clacton yn Essex yn enw Reform UK, ar ôl cael ei gyhoeddi’n arweinydd y blaid.
Daliodd UKIP eu gafael ar etholaeth Clacton ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Douglas Carswell symud at y blaid a sbarduno is-etholiad enillodd o yn 2014.
Fe amddiffynnodd Douglas Carswell y sedd i UKIP yn etholiad cyffredinol 2015.
Roedd mwy na 70% o bleidleiswyr yn Clacton wedi cefnogi Brexit yn refferendwm 2016, sef y pumed ffigwr uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn 2017, fe wnaeth y Ceidwadwr Giles Watling gipio’r etholaeth gan Douglas Carswell, oedd erbyn hynny yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol, gyda mwyafrif o fwy na 15,000.
Erbyn 2019, heb unrhyw ymgeisydd UKIP na Phlaid Brexit yn sefyll, tyfodd mwyafrif Giles Watling i 24,702, a bydd yn ymgyrchu dros y sedd eto ym mis Gorffennaf dros y Ceidwadwyr.
“Mae’n debyg ei fod o wedi dewis y lle achos bod ei bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn uchel yno,” meddai Liz Saville Roberts.
“Ond o safbwynt fy mhlaid i, dw i’n meddwl bod y dadleuon sydd wedi arwain y Deyrnas Gyfunol i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi gadael hoel gwenwynig iawn ar ein gwleidyddiaeth, ac yn bwysicach na hynny hyd yn oed, mae o wedi gwneud niwed i’n heconomi a’n cymunedau ni yng Nghymru a thu hwnt.
“Dw i’n dal Nigel Farage i gyfrif am y newid mae o wedi’i wneud i’r ffordd mae gwleidyddiaeth yn gweithio yn y Deyrnas Unedig.
“Mae o’n ddyn sy’n mwynhau sylw.
“Ac wrth gwrs, mae ei blaid, Reform, yn gwmni preifat a fo piau o, felly dw i’n meddwl ei fod yn bwysig i ni ddeall, dydyn nhw ddim fel plaid lle mae gwahanol fathau o reolau yn berthnasol iddyn nhw… Ond rhyngddo fo a’i bethau.
“Mae o’n sicrhau am fod yn destun sgwrs!”