Mae’r Blaid Lafur yn gwneud niwed i gymunedau Cymru drwy ‘barasiwtio’ ymgeiswyr i mewn o’r tu allan, yn ôl Liz Saville Roberts.

Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar ôl i Lafur ddewis ymgeiswyr o Loegr i frwydro seddi Gorllewin Abertawe a Gorllewin Caerdydd, ardaloedd lle nad oes ganddyn nhw gysylltiadau blaenorol â’r ardal.

Ar ôl iddi ddod i’r amlwg na fyddai Geraint Davies yn cael sefyll eto yng Ngorllewin Abertawe, ac yntau wedi’i wahardd gan Lafur yn sgil honiadau ynghylch ei ymddygiad tuag at fenywod, daeth cadarnhad mai Torsten Bell o Lundain, sy’n bennaeth ar y felin drafod Resolution Foundation, fyddai’r ymgeisydd newydd yn ei le.

Yng Ngorllewin Caerdydd, roedd Kevin Brennan wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu ar ôl 23 o flynyddoedd, ac mae’r blaid wedi dewis Alex Barros-Curtis, cyn-Gyfarwyddwr Cyfreithiol yr arweinydd Syr Keir Starmer, i frwydro’r sedd honno.

Torsten Bell yn ymgyrchu yng Ngorllewin Abertawe

‘Cyfaill neu gefnogwr i’r arweinydd’

“Mae’r Blaid Lafur angen dysgu bod pobol sy’n ethol aelodau yn disgwyl eu bod nhw’n cynrychioli eu hardaloedd nhw, ac yn disgwyl eu bod nhw’n bobol sy’n nabod yr ardal, gyda gwreiddiau, ac yn gallu siarad gyda hygrededd wrth gynrychioli’r ardal,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.

“Dydyn nhw ddim yn disgwyl cael rhywun sy’n digwydd bod yn gyfaill neu’n gefnogwr i’r arweinwyr.

“Dw i’n meddwl bod y Blaid Lafur yn gwneud niwed i ddemocratiaeth Cymru trwy gymryd Cymru yn ganiataol a hedfan pobol i mewn achos bod y seddi’n ddiogel yno.

“Mae’n bwysig bod y Blaid Lafur yn dysgu nad ydych chi’n cymryd cymunedau Cymru yn ganiataol.

“Fel ymgeisydd Plaid Cymru, dw i’n gwybod bod pobol yn ffyddiog ynom ni fel pobol sy’n cynrychioli’r etholaethau a’r etholaethau rydan ni’n sefyll drostyn nhw yn yr etholiad cyffredinol.”