Mae Vaughan Gething wedi “tanseilio” y swydd yn sgil helynt rhoddion i’w ymgyrch i ddod yn arweinydd Llafur Cymru, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth ar drothwy pleidlais hyder yn y Senedd ddydd Mercher (Mehefin 5), ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod Vaughan Gething wedi derbyn rhodd sylweddol o £200,000 i’w ymgyrch gan David Neal, pennaeth cwmni gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a’i fod yn ymwybodol o’r sefyllfa cyn derbyn yr arian.

Roedd e’n destun ymchwiliad troseddol pan roddodd e’r arian i’r ymgeisydd.

Ers hynny, mae Hannah Blythyn, y cyn-Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, wedi’i diswyddo yn dilyn honiadau ei bod hi wedi datgelu gwybodaeth am negeseuon WhatsApp am Covid-19 i’r wasg.

Yn ychwanegol at hynny, penderfynodd Plaid Cymru ddirwyn y Cytundeb Cydweithio â’r Llywodraeth Lafur i ben.

‘Y gallu i lywodraethu’

Ar drothwy’r bleidlais, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod yna gwestiynau i’w hateb ynghylch gallu Vaughan Gething i lywodraethu.

“Wrth dderbyn rhodd o £200,000 gan lygrwr sydd wedi’i gael yn euog, mae’r Prif Weinidog wedi tanseilio’i swydd ei hun a hyder pobol Cymru yn ei allu i lywodraethu,” meddai.

“Ar adeg pan fo ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth yn isel, mae unrhyw ganfyddiad o ddylanwad allanol ym mhenderfyniadau Llywodraeth Lafur Cymru’n erydu hyder y cyhoedd.

“Mae amharodrwydd y Prif Weinidog i gyfaddef ei ddiffyg crebwyll difrifol yn arwydd o agwedd ddi-hid bryderus.

“Hyd yn oed pan fo cydweithiwr Llafur, yn ôl y sôn, wedi cynnig ei helpu i ad-dalu’r rhodd wenwynig, fe wrthododd y cynnig, sy’n brawf pellach nad yw’n deall dicter pobol Cymru.

“Mater i’r Blaid Lafur a Keir Starmer, yn y pen draw, yw penderfynu tynged y Prif Weinidog.

“Mae p’un a fydd rhai aelodau’n dal eu trwynau neu’n ategu eu anhapusrwydd ynghylch graddau a ffynhonnell y rhodd drwy gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder yn fater iddyn nhw.”

‘Clymu ei hun i fyny’

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae Vaughan Gething yn parhau i “glymu ei hun i fyny tros roddion i’w ymgyrch”.

“Mae Vaughan Gething yn dweud ei fod e wedi gwneud diwydrwydd dyladwy ar bob un o’i roddwyr, ond mae’n ymddangos nad oedd e wedi gofyn i’w roddwr mwyaf a oedd ganddyn nhw gysylltiadau ag unrhyw ymchwiliadau troseddol presennol,” meddai.

“Does dim rhyfedd nad yw’r Prif Weinidog am ddweud a fydd e’n ennill y bleidlais fory.”

Mae Vaughan Gething yn parhau i wadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

Cynnig o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething

Bydd dadl a phleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Mehefin 5)

‘Gofyn i Blaid Cymru ailystyried eu rôl gyda diwedd y Cytundeb Cydweithio’

Cadi Dafydd

“Dyw sefyllfa’r Prif Weinidog ddim yn glir yn yr hirdymor, a dw i’n credu bod rhaid i Blaid Cymru ddangos eu bod nhw’n barod i ymateb i ddigwyddiadau”