Mae 17 o bobol, gan gynnwys merch Balesteinaidd ddeuddeg oed a’i mam, wedi cael eu harestio yng Nghaerdydd ac Abertawe, wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn ymosodiadau Israel ar Gaza.

Ymgasglodd dros 100 o gefnogwyr y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd neithiwr (nos Lun, Mehefin 3), er mwyn mynnu bod ymgyrchydd anabl a gafodd ei arestio wrth brotestio ddoe yn cael ei rhyddhau.

Roedd grŵp llai o gefnogwyr yn eistedd yn nerbynfa gorsaf yr heddlu, ac ychydig cyn hanner nos fe symudodd yr heddlu i mewn ac arestio protestwyr fu’n eistedd fesul un.

Cafodd ymgyrchwyr eu harestio yn Abertawe hefyd.

Yn ystod oriau mân fore heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 4), aeth yr heddlu i gartref merch Balesteinaidd ddeuddeg oed a’i mam, a’u harestio ill dwy.

Profiad y protestwyr

Cafodd y brotest ei threfnu ar y cyd rhwng grwpiau sy’n cynnwys Fforwm Palesteina ym Mhrydain, Cardiff Stop the War, Black Lives Matter Cardiff and Vale, Stand Up for Palestine, a Myfyrwyr Cymru dros Balesteina, yn dilyn ymosodiadau Israel ar ddinas Rafah.

Hefyd yn y brotest roedd myfyrwyr o wersyll Prifysgol Caerdydd, gafodd ei sefydlu dair wythnos yn ôl.

Mae myfyrwyr sydd wedi gosod pebyll ar lawnt Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd yn galw ar y brifysgol i:

  • ddatgelu eu cysylltiadau â buddsoddiadau sy’n gysylltiedig ag Israel
  • rhoi terfyn ar gydweithio gyda chwmnïau sy’n cefnogi Israel
  • cefnogi rhaglenni addysg i fyfyrwyr Palesteinaidd

Cafodd gwersylloedd tebyg eu sefydlu ym mhrifysgolion Abertawe, Bangor ac Aberystwyth, ac maen nhw wedi derbyn cefnogaeth gan staff y brifysgol.

Roedd Hadeel, dyn Palesteinaidd 20 oed gafodd ei eni yng Nghaerdydd ac sydd â theulu yn y Lan Orllewinol, yn y brotest yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

“Roeddwn i’n eistedd ar y llawr gyda fy mreichiau yng nghlwm â fy ffrindiau mewn llinell pan wnaeth yr heddlu linell arall y tu ôl i ni a dechrau ein cicio ymlaen,” meddai.

“Roedden nhw’n cydio ac yn tynnu unrhyw ran ohonom y gallan nhw – gwallt, breichiau, unrhyw beth.

“Roedd yn boenus.

“Roeddwn i’n gweiddi arnyn nhw: ‘Rydych chi’n ein brifo. Dw i ddim yn gallu anadlu, alla i ddim anadlu’.

“Roedd yna ddyn hil gymysg gyda dreadlocks wrth fy ymyl ac roedden nhw’n llawer mwy treisgar gydag e.

“Ro’n i’n meddwl bod ei fraich yn mynd i dorri.”

‘Proffilio hiliol yn glir’

“Fe wnaethon nhw fachu fy ngwallt a rhwygo fy oriawr,” meddai Sofia, myfyrwraig 22 oed ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Roeddwn i’n gallu gweld y proffilio hiliol yn glir.

“Roeddwn i o flaen fy ffrind sy’n gwisgo hijab, ac roedden nhw’n estyn o ‘nghwmpas a’r tu ôl i fi i fynd ati.

“Fe wnaethon nhw fy ngwthio i’r llawr a gwthio rhywun arall ar fy mhen i, ac arestio merch Balesteinaidd.

“Doedd hi ddim hyd yn oed gyda’r protestwyr eraill.

“Roedd hi y tu allan i’r orsaf.”

Ymateb

“Tua 3.40pm ddoe (dydd Llun, Mehefin 3), fe wnaethon ni dderbyn adroddiad o brotest yn cynnwys 50 i 60 o brotestwyr ar Boulevard de Nantes, ger y gyffordd â Phlas y Parc, yng nghanol dinas Caerdydd,” meddai Heddlu De Cymru.

“Cafodd swyddogion eu hanfon i gynnal diogelwch y cyhoedd, hwyluso protestio heddychlon, a lleihau aflonyddwch i’r gymuned ehangach.

“Cafodd dyn 36 oed o Abertawe ei arestio ar amheuaeth o rwystro’r briffordd a chynllwynio bwriadol i gyflawni niwsans cyhoeddus.

“Am 9.30yp, cafwyd protest ddigymell arall yn ardal desg flaen Gorsaf Heddlu Bae Caerdydd, a chafodd 16 o bobol eu harestio ar amheuaeth o ymddygiad treisgar mewn gorsaf heddlu.

“Mae pawb sydd wedi’u harestio yn dal yn y ddalfa, ac mae ymholiadau’n parhau.”