Yn 2004 daeth bwrdd monitro annibynnol i’r casgliad mai Carchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr oedd y gwaethaf o blith y deg o garchardai preifat yng Nghymru a Lloegr ar y pryd.

Ugain mlynedd lawr y lôn ac mae’r darlun o’r hyn sy’n digwydd yno yn gwbl frawychus.

Deg o garcharorion wedi marw o fewn tri mis.

Aelod o staff wedi cyfaddef smyglo cyffuriau fewn i’r carchar.

A ddydd Gwener ddiwethaf bu yn rhaid rhuthro tri charcharor i’r ysbyty yn dilyn adroddiadau bod ugain o ddynion yno wedi cychwyn reiat.

Does ryfedd bod teuluoedd pryderus wedi bod yn protestio tu allan i’r carchar, ac mae ein chwaer wasanaeth wedi holi un fam sy’n poeni am fywyd un o’i phlant sydd yn y Parc.

“Mae’n frawychus cael fy mab yno,” meddai Annmarie Alders o Gaerdydd wrth golwg360.

“Mae’r pethau mae e’n eu disgrifio sy’n mynd ymlaen yno – swyddogion yn cymryd cyffuriau, pobol yn marw – yn frawychus.

“Roedd ganddo fe broblemau cyffuriau ar y tu allan, felly mae e wedi addo i mi nad ydy e wedi cymryd unrhyw beth i mewn yno. Ond dw i’n poeni nad ydy e’n derbyn y feddyginiaeth mae e i fod i’w dderbyn, ac y gallai droi at gyffuriau i hunanfeddyginiaethu.

“Mae’n dweud bod lefel y trais yn y carchar yn hollol eithafol, ac mae’r swyddogion yn edrych i ffwrdd.

“Mae pobol yn hunan-niweidio a does gan y swyddogion ddim diddordeb…

“Dw i’n poeni am ei ddiogelwch, achos dydy’r swyddogion ddim yn gwneud eu gwaith – dydyn nhw ddim yn cadw pawb yn ddiogel.”

Dyna ddarlun i oeri’r gwaed, a does ryfedd bod rhieni a theuluoedd y carcharorion yn galw ar Lywodraeth Prydain i redeg y carchar ei hun, a diddymu’r cytundeb presennol sydd gan gwmni G4S i redeg y lle.

Liz Saville Roberts

Yr hyn sydd yr un mor syfrdanol, o ystyried fod DEG o ddynion wedi marw mewn tri mis, yw pa mor dawel yw’r gwleidyddion am hyn oll.

Iawn, mae hi’n adeg lecsiwn, ac mae yna gant a mil o bethau i’w trafod.

Ond mae’r sefyllfa yng Ngharchar y Parc yn hollol syfrdanol, ac angen sylw brys.

I fod yn deg, mae Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi traethu ar y mater, ac yn ôl ei harfer mae gan Liz Saville Roberts bethau call iawn i’w dweud.

Tra mae’r teuluoedd yn dadlau dros ddod â’r Parc dan adain Llywodraeth Prydain, mae Liz yn mynd gam ymhellach ac yn mynnu fod angen i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am holl garchardai’r wlad.

“Mae gan yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel oll eu systemau carchar eu hunain, ond yn anesboniadwy, nid yw Llywodraeth Prydain yn credu fod Cymru yn ffit i fod yn gyfrifol am ei charchardai,” meddai.

“Oherwydd bod gormod yn cael eu dal mewn carchardai yng Nghymru maen nhw yn beryclach nag erioed.

“A does yr un esiampl waeth o hyn na Charchar y Parc… sydd yn dangos bod y model carchar preifat wedi bod yn fethiant trychinebus…

“Byddai datganoli’r cyfrifoldeb am yr holl garchardai yng Nghymru yn gallu gwneud ein cymunedau yn llefydd saffach, oherwydd mae angen rheolaeth o’r holl broses blismona a chyfiawnder er mwyn adfer troseddwyr a lleihau trosedd…

“Dim ond pan gaiff Gymru ei system gyfiawnder ei hun y gallwn ni ganolbwyntio ar fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi troseddu ac aildroseddu, a rhoi’r pwyslais ar atal troseddu yn hytrach na pharhau i borthi cylch dieflig o drais.”

Mae hi’n sefyllfa enbyd yn y Parc, ac mae’n amlwg i bawb bod angen ateb radical i’r llanast sydd yno.