Fel y gwyddom, mae Keir Starmer yn ein hannog i bleidleisio dros ei blaid yn yr etholiad cyffredinol y mis nesaf.

Mae’n amser i ni gael newid‘, meddai, ‘yn dilyn pedair blynedd ar ddeg o anhrefn, diolch i’r Ceidwadwyr’.

Yn anffodus iddo ef a’i ddarpar Ganghellor Rachel Reeves, fe fydd newid unrhyw beth er gwell ar ôl yr etholiad yn dasg anodd, os nad amhosib.

Digon hawdd, fodd bynnag, fydd newid pethau er gwaeth.