Mae Ysgrifennydd Addysg Cymru wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod o blaid cadw ysgolion gwledig Ceredigion ar agor.

Mewn llythyr i Gymdeithas yr Iaith, mae Lynne Neagle wedi cadarnhau fod y rhagdyb o blaid ysgolion gwledig – sy’n ganolog i argraffiad 2018 y Cod Trefniadaeth Ysgolion – yn parhau’n bolisi swyddogol Llywodraeth Cymru.

Daw’r datblygiad hwn wedi i swyddogion Cyngor Ceredigion hysbysu llywodraethwyr eu bod nhw’n adolygu dyfodol nifer o ysgolion gwledig trwy’r sir, er mwyn gwneud arbedion brys i’w cyllideb ar gyfer 2025-26.

‘Balch’

“Rydym yn falch o dderbyn y sicrwydd hwn gan y Gweinidog newydd fel nad oes unrhyw gamddeall gan swyddogion y Cyngor am eu dyletswyddau statudol,” meddai’r ymgyrchydd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r Gymdeithas wedi eu hysbysu y byddent yn gweithredu’n groes i’r Cod mewn nifer o ffyrdd petaent yn mynd ymlaen gyda’u bwriad brys o osod ‘Papurau Cynnig’ gerbron cyfarfod 16 Gorffennaf o Gabinet y Cyngor i geisio caniatâd y cynghorwyr etholedig i ymgynghori’n ffurfiol ar gynnig i gau unrhyw ysgol.”

Yn ôl y Gymdeithas, byddai cam o’r fath yn torri’r Cod trwy:

  • danseilio holl gysyniad rhagdyb o blaid Ysgolion Gwledig trwy eu hadolygu fel problemau cyllidol potensial yn hytrach nag fel asedau cymunedol gwerthfawr;
  • eu hadolygu yng nghyd-destun ymarferiad cwtogi ar wariant yn hytrach nag yng nghyd-destun eu gallu i gyflwyno’r cwricwlwm ac addysgu’n llwyddiannus;
  • hyd yn oed o ran rhesymoli nifer lleoedd mewn ysgol, mae’r Cod yn mynnu bod Awdurdod Lleol yn edrych ar y ddarpariaeth fesul ardal yn hytrach na thargedu ysgolion gwasgarog yma ac acw;
  • Mae’r Cod yn mynnu bod ystyried pob opsiwn amgen yn fanwl cyn cynnig hyd yn oed cau ysgol ar Restr swyddogol Ysgolion Gwledig. Mae llawer o opsiynau wedi’u henwi yn y Cod – fel creu ysgolion aml-safle, ffedereiddio ysgolion (boed cynradd, neu gynradd ac uwchradd), defnyddio capasiti dros ben mewn ysgol ar gyfer gwaith arall gan y Cyngor neu gyflwyno gwasanaethau eraill, ehangu ystod yr addysg trwy e-ddysgu ac yn y blaen. Ar ben hyn, mae opsiynau lleol fel creu ymddiriedaeth gymunedol i berchnogi adeilad fel nad oes rhaid i Gyngor ond rhentu hynny o ofod sydd ei angen ar gyfer ysgol;
  • Yn gwbl dyngedfennol, dywed y Cod fod “Cyfraith Achosion” yn mynnu bod yn rhaid i Awdurdod Lleol drafod yr holl bosibiliadau gyda rhanddeiliaid “tra bo’r cynnig ar gam ffurfiannol” – hynny yw, na fyddai’n ddigonol i grybwyll yn unig yr opsiynau amgen mewn Papur Cynnig.

“Byddai’n hollol briodol i Swyddogion Addysg Ceredigion gynnig i’r Cabinet fod cynnal ymgynghoriad cyffredinol ar sut i gryfhau ysgolion gwledig (fel ddigwyddodd yn Sir Gar gyfagos wrth adolygu ei ‘Gynllun Moderneiddio Addysg’) a byddai Cymdeithas yr Iaith yn croesawu trafodaeth agored o’r fath,” meddai Ffred Ffransis.

“Ond, nid yw’n gyfreithlon i’r Cyngor ruthro at ymgynghoriad ar gau ysgolion ar restr y Llywodraeth o Ysgolion Gwledig i’w gwarchod er mwyn ceisio arbed rhywfaint o gyllid.

“Rydym yn hyderus y bydd aelodau etholedig y sir yn galw am drafodaeth gadarnhaol y gall pawb fod yn rhan ohoni.”