Mae pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y Ffindir i gryfhau addysg trwy gyfrwng ieithoedd Sami Inari, Gogledd Sami a Sami Skolt, a sicrhau eu bod nhw’n cael eu defnyddio’n effeithiol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.

Daw’r alwad gan Bwyllgor Arbenigwyr ar Siarter Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai’r awdurdodau godi ymwybyddiaeth a goddefgarwch yn y gymdeithas o ran ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol, a’r diwylliannau sy’n cyd-fynd â’r ieithoedd hynny.

Adroddiad

Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi’r wythnos hon ac mewn sylwadau gan yr awdurdodau yn y Ffindir, mae’r pwyllgor yn nodi bod cynlluniau gweithredu ac ymgyrchoedd yn y cyfryngau wedi’u lansio i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.

Ond mae’n nodi nad oes digon wedi’i wneud hyd yn hyn i fynd i’r afael â diffyg ymwybyddiaeth o ieithoedd lleiafrifol chwaith.

Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell cryfhau’r defnydd o’r iaith Swedeg, gan gynnwys ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Maen nhw hefyd yn awyddus i adfywio’r iaith Romani, yn enwedig ym maes addysg, gan gynnwys hyfforddi athrawon Romani a chreu deunyddiau dysgu.

Siarter

Y Siarter yw’r confensiwn Ewropeaidd ar gyfer gwarchod a hyrwyddo ieithoedd cymunedau lleiafrifol.

Fe ddaeth i rym yn y Ffindir yn 1998, ac mae’n berthnasol i’r ieithoedd Swedeg, Inari Sami, Gogledd Sami a Skolt Sami, Karelaidd, Romani, Rwsieg, Tatar ac Yiddish.

Mae’r Siarter yn galluogi siaradwyr i ddefnyddio’u hieithoedd lleiafrifol yn eu bywydau preifat a chyhoeddus.

Caiff y broses o weithredu’r Siarter, sydd ar waith mewn 25 o wledydd, ei monitro gan bwyllgor annibynnol o arbenigwyr.

Mae’r Ffindir wedi’u gwahodd i gyflwyno gwybodaeth ynghylch eu hargymhellion fel bod modd eu rhoi nhw ar waith erbyn Medi 1, 2025 ac erbyn Mawrth 1, 2028 ar gyfer argymhellion pellach.